Grant cychwyn busnes
Yn yr adran hon
7. Ymgeisio ac Asesu
Ymgeisio ac Asesu
Bydd pob cais sydd wedi'u cwblhau yn cael eu hystyried ar sail y cyntaf i'r felin nes bydd y gronfa wedi'i ddyrannu'n llawn.
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a chanlyniadau'r prosiect grant, h.y. i adlewyrchu allbynnau newydd ar ôl eu cadarnhau
• Gwerth am arian / cymhareb grant fesul swydd a grëwyd a buddsoddiad sector preifat a drosolwyd gan y grant yn ogystal â hyfywedd y cynllun busnes i gefnogi'r cynlluniau cychwynnol a thwf cynaliadwy.
• Busnes a grëwyd
• Swyddi a grëwyd
Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn sero net carbon erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy drwy ei raglenni ariannu. Fel rhan o’r cais, gofynnir i chi sut mae’ch busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy. Ystyriwch gofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru.
Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru
I ddechrau mae'n ofynnol i ymgeisydd gyflwyno mynegiant o ddiddordeb. Bydd y mynegiant o ddiddordeb wedyn yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os caiff ei gymeradwyo gwahoddir chi i gyflwyno cais llawn.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd y canlynol:
· Ffurflen Gais wedi'i gwblhau'n llawn
· Cynllun busnes cynhwysfawr a manwl (dylai'r cynllun busnes gynnwys adran ar sut mae'r busnes yn gweithredu arferion busnes cynaliadwy)
· Rhagolygon 2 blynedd (rhagamcan llif arian)
· Dyfyniadau ysgrifenedig ffurfiol ar gyfer yr eitemau sydd wedi’u cynnwys yn y cais (gweler isod am ganllawiau)
· Safonau'r Iaith Gymraeg - gweler canllawiau pellach isod
· Polisi Amgylcheddol / Cynaladwyedd - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd
Bydd gwerth y grant yn cael ei gyfrifo yn ystod yr asesiad, yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir a bydd yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig wrth i'r asesiad ddod i ben. Cyfeiriwch at Y Cynnig, (gweler uchod). Bydd cyfle gan yr ymgeisydd i dderbyn y dyfarniad arfaethedig cyn cyhoeddi cytundeb ffurfiol.
Dylid nodi mai Cronfa Twf Lleol Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin yn grant dewisol ac yn amodol ar gymeradwyaeth Cyngor Sir Caerfyrddin. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cyfarfod yn fisol i ystyried ceisiadau sy'n bodloni'r safon erbyn y dyddiad cau penodol.
Noder - Bydd angen i’r ceisiadau bod yn hollol barod cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r panel, felly rhaid cadarnhau gofynion hanfodol megis ariannu cyfatebol, caniatâd cynllunio (lle bo hynny'n berthnasol), ayyb cyn y bydd y tîm grant yn paratoi'r cais i'w ystyried yn y panel.
Bydd eithriadau i'r amodau hyn yn cael eu hystyried fesul achos.
