Grant Ymchwil A Datblygu
Yn yr adran hon
3. Cymhwysedd
Cymhwysedd
Mae Grant Ymchwil a Datblygu Sir Gaerfyrddin yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Twf Lleol a'i ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac felly dim ond ar gael ar gyfer cais i fusnesau bach a chanolig (SMEs) newydd neu bresennol o fewn y sectorau cymwys sydd yn Sir Gaerfyrddin neu'n bwriadu ymsefydlu ynddi.
Bydd y grant ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 11 Fai 2026 a’r 31 Hydref 2026 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.
Mae cymorth wedi'i anelu'n bennaf at fusnesau bach a chanolig presennol a fydd yn gweithredu yn y sectorau twf a sylfaen canlynol neu'n eu gwasanaethu:
· Deunyddiau uwch a Gweithgynhyrchu;
· Adeiladu;
· Diwydiannau Creadigol;
· Ynni a'r Amgylchedd;
· Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol;
· Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu;
· Gwyddorau Bywyd;
· Bwyd a Diod;
· Twristiaeth
· Adwerthu
· Gofal
Caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos gan ddibynnu ar eu cyfraniadau a'u gwerth posibl i'r economi leol, e.e. creu swyddi yng nghanol trefi cynradd ac eilaidd y sir, ardaloedd gwledig, cyswllt â phrosiectau strategol allweddol, megis Yr Egin a Pentre Awel, Pendine, Llanelli YMCA, Neuadd Farchnad Llandeilo, Safle cyflogaeth strategol Dwyrain Cross Hands.
Nid yw'r sectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth: - cynhyrchu amaethyddol sylfaenol, coedwigaeth, dyframaethu, pysgota a gwasanaethau statudol, e.e., Iechyd sylfaenol ac addysg.
Ni allwn ystyried ceisiadau gan fentrau mawr a Chwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus (CCC).
Mae'r Gronfa ar gael i fusnesau bach a chanolig o bob maint sy'n anelu at weithredu eu cynlluniau twf ac adferiad a rhaid iddynt arwain at greu a/neu ddiogelu swyddi. Felly, rhaid i ymgeiswyr egluro eu cynlluniau twf (a darparu tystiolaeth lle bo'n berthnasol) o fewn y broses ymgeisio.
Rhaid i ymgeiswyr hefyd dangos yn glir bod y prosiect arfaethedig yn gysylltiedig ag arloesedd, Ymchwil a Datblygu a/neu brosiectau sy'n diogelu'r dyfodol a chyfeirio at y Strategaeth Arloesi Leol. https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1231400/local-innovation-strategy.pdf
Rhaid prynu a hawlio'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis i ddyddiad y llythyr cynnig neu ddim hwyrach na’r 31 Ionawr 2027, pa un bynnag sydd gynharaf. Ni roddir unrhyw estyniadau i gyflwyno hawliadau.
Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i fonitro a chynnal tystiolaeth ar 1, 3 a 5 mlynedd o dderbyn cais am grant.
