Grant Ymchwil A Datblygu

6. Offer ail-law

Mae costau prynu offer ail-law yn gymwys am grant o dan yr amodau canlynol:-

·        Rhaid i werthwr yr offer lunio datganiad yn nodi o ble y daeth, a chadarnhau nad ydynt ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd flaenorol wedi cael eu prynu â chymorth grantiau cenedlaethol neu Ewropeaidd;

·        Rhaid i bris yr offer beidio â bod yn fwy na gwerth y farchnad a rhaid iddo fod yn llai na chost offer newydd tebyg, a

·        Rhaid i'r offer fod â'r nodweddion technegol sy'n angenrheidiol i weithredu a rhaid i'r offer gydymffurfio â'r safonau sy'n arferol ac yn berthnasol, e.e. Iechyd a Diogelwch

·        Ni fydd pryniannau gan werthwyr preifat / unigolion yn cael eu hystyried, e.e. Facebook Marketplace, ayyb.