Grant Ymchwil A Datblygu
Yn yr adran hon
2. Y Cynnig
Y Cynnig
Grantiau ar gael rhwng £1,000.00 a £50,000.00 gros caiff ei ystyried fesul achos ar gyfer ceisiadau sy'n dangos arloesedd yn glir, Ymchwil a Datblygu a/neu brosiectau sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Arloesi Leol ar gyfer y dyfodol https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1231400/local-innovation-strategy.pdf
Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys
Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, rhaid i ymgeiswyr feddu ar y modd ariannol i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn y broses hawlio (gweler yn y telerau ac amodau o fewn y ddogfen hon)
Rhaid cyflwyno hawliadau o fewn 4 mis i'r llythyr cynnig neu erbyn yr 31 o Ionawr 2027 y fan bellaf pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Er mwyn cefnogi llif arian, bydd y tîm grantiau yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond mae'n rhaid gofyn am gytundeb ymlaen llaw gan y Cyngor.
Gellir ystyried sawl cais am y grant Ymchwil a Datblygu, gan yr un cwmni, ar gyfer cynigion prosiect Ymchwil a Datblygu sydd ar wahân
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy'n dangos y potensial ar gyfer creu swyddi o fewn amserlen y grant.
