Cyfanswm y gronfa – £1,000,000 cyfalaf
Isafswm dyfarniad grant – £25,000
Uchafswm dyfarniad grant – £100,000
Mae Cronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant yn grant cyfalaf a gynlluniwyd i gefnogi mentrau diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth sy’n cyfrannu at dwf economaidd yn Sir Gaerfyrddin.
Caiff y Gronfa ei hariannu drwy Gronfa Twf Lleol 2026–27, ac mae dyraniad o £1 miliwn wedi’i gadarnhau ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a fydd yn ein galluogi i gyflawni rhai o amcanion strategol y Sir.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid tan fis Mawrth 2027.
Diben y Gronfa
Nod y gronfa yw cefnogi creu, ehangu neu foderneiddio asedau twristiaeth, diwylliant neu dreftadaeth sy’n gallu cefnogi twf rhanbarthol.
Bydd Cronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant gwerth £1 filiwn yn buddsoddi mewn prosiectau ar draws Sir Gaerfyrddin sy’n dathlu ac yn hyrwyddo unigrywiaeth a hunaniaeth y Sir. Bydd y gronfa’n cefnogi mentrau sy’n:
- Gwella ansawdd a hygyrchedd cyfleusterau diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth
- Gwella profiad cyffredinol ymwelwyr
- Denw mwy o ymwelwyr
- Ymestyn y tymor twristiaeth
Gweithgareddau prosiect cymwys
Sylwer bod yn rhaid i bob prosiect sy’n ceisio cyllid o dan Gronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant gael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2027 fan bellaf.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos y mathau o brosiectau a allai fod yn gymwys. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr:
- Gwelliannau i gyfleusterau sy’n anelu at wella profiad cyffredinol ymwelwyr
- Adfer, gwella neu weithredu asedau treftadaeth
- Datblygu seilwaith twristiaeth neu lwybrau
- Gwelliannau i gyfleusterau sy’n ymestyn y tymor
- Gwelliannau i hygyrchedd digidol ar gyfer cyfleusterau treftadaeth, twristiaeth neu ddiwylliant
- Gwelliannau i ddehongli ac ymgysylltu
- Seilwaith ymwelwyr hygyrch mewn safleoedd allweddol
Sefydliadau cymwys
- Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol cyfansoddedig
- Cyrff Cyhoeddus
- Elusennau Cofrestredig
- Sefydliadau nid-er-elw
- Mentrau Cymdeithasol
- Gall canghennau lleol o sefydliadau trydydd sector cenedlaethol wneud cais gan ddefnyddio Cyfansoddiad y rhiant-gorff
- Gall Cynghorau Tref a Chymuned wneud cais am brosiectau sy’n ychwanegol at eu cyfrifoldebau statudol arferol ac a fydd o fudd i’r gymuned
Dyddiad cau ceisiadau
Cyfanswm ar gael – £1,000,000 (cyfalaf)
Agor: 15 Mai 2026
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Mehefin 2026
Pecyn Cais
Nodiadau canllaw
Ffurflen gais
Templed proffil ariannol
I drafod eich prosiect arfaethedig, anfonwch e-bost at: biwro@sirgar.gov.uk
