Rhydaman

Rhydaman

Rhydaman, a elwid gynt yn Cross Inn, yw'r dref drydedd fwyaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae ganddi boblogaeth o 5,400. Mae proffil oedran Rhydaman ychydig yn iau na'r cyfartaledd ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae lefelau amddifadedd a diweithdra yn Rhydaman ychydig yn uwch na chyfartaleddau Cymru a Sir Gaerfyrddin. Er gwaethaf yr amddifadedd yn yr ardal mae'r dref yn parhau i annog cymuned ffyniannus. Gwelodd yr aneddiad gwledig tawel hwn newid diwydiannol gyda’r diwydiant mwyngloddio yn denu gweithwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a heddiw mae cerflun yng nghanol y dref er cof am y glowyr a hanes y dref. Mae gan ganol y dref nifer fawr o fusnesau annibynnol ar gyfer economi'r dydd a'r nos. Mae Rhydaman yn dal record byd Guinness ac yn ddiweddar mae wedi dechrau ar ei 21ain flwyddyn fel tref Masnach Deg, y gyntaf i wneud hynny yng Nghymru.

 

Darganfod Rhydaman

Prif Gynllun Adfer Rhydaman

Comisiynwyd y prif gynllun adfer hwn ar gyfer canol tref Rhydaman gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn ymateb i effeithiau pandemig COVID-19. Mae'r prif gynllun yn adolygu gweithgarwch adfywio presennol ac yn rhoi ffocws newydd ar y blaenoriaethau a'r strategaeth ar gyfer adferiad a thwf yn y dyfodol.

  • Yn Rhydaman, canolbwyntir ar ddenu teuluoedd lleol a phobl iau drwy sicrhau cyfleoedd hamdden, addysg a diwylliannol newydd, i helpu i ehangu’r ystod o weithgareddau ac ymestyn ‘amser aros’ a threulio trwy gydol y dydd a gyda’r nos yno.
  • Annog twf y farchnad wythnosol i gynnwys mwy o stondinau a mathau newydd o farchnadoedd.
  • Uno ardaloedd digyswllt canol y dref trwy ddylunio priffyrdd o ansawdd gwell, cysylltiadau i gerddwyr ac ailgynllunio ac animeiddio mannau agored allweddol.
  • Diogelu busnesau hyfyw a meithrin busnesau lleol newydd a chefnogi busnesau annibynnol i leoli a thyfu yng nghanol y dref.
  • Sefydlu tref SMART gyda busnesau yn gwneud y defnydd gorau o gyfathrebu digidol i ehangu eu cyrhaeddiad yn y farchnad, eu trosiant a'r nifer sy'n ymweld â hwy.
  • Defnyddio seilwaith ‘gwyrdd a glas’ naturiol y dref i greu ymdeimlad cryfach o le a hynodrwydd.
  • Cyfathrebu'n effeithiol yr hyn sydd gan ganol y dref i'w gynnig i'r gymuned leol a meithrin teyrngarwch lleol a thraddodiadau newydd.

Prif Gynllun Adfer Rhydaman

Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi

Wedi'i lansio yn 2024, mae cynllun grant wedi'i dargedu o £130,000 yn cefnogi'r gwaith o adfywio eiddo masnachol gwag ar y llawr gwaelod yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, gan helpu i drawsnewid unedau gwag yn fannau busnes ffyniannus. 

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2024, mae wedi dod â 15 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd trwy brydlesi tymor byr, gan roi cyfle i entrepreneuriaid a busnesau bach dreialu eu mentrau yn adeiladau canol y dref. 

  • 26 Stryd y Cei (Ammanford Nails)
  • 11 Yr Arcêd (Plant House) 

Eiddo Gwag

Ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Sir Caerfyrddin unrhyw eiddo yng nghanol tref Rhydaman ar gael i’w brydlesu, cysylltwch â ni yn y dyfodol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gwelwch y rhestr lawn o eiddo'r Cyngor ar brydles ar draws y sir yma.

Manylion Cyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin

Os hoffech gysylltu â'r awdurdod ynglŷn â Chanol Tref Rhydaman, mae croeso i chi gysylltu â’n swyddogion sy’n gyfrifol am y ganolfan a byddant yn fwy na pharod i helpu:

Trefi@sirgar.gov.uk

Hwb