Gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bwyd
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/02/2024
Mae'r cynllun sgorio hylendid bwyd gorfodol bellach wedi bod ar waith ers dros 3 blynedd ac mae'n cynnwys busnesau sy'n gweithredu fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau brechdanau, Gwely a Brecwast, gwestai, masnachwyr teithiol, stondinau marchnad a marchnadoedd achlysurol.
Mae busnesau bwyd yn cael sgôr yn dilyn arolygiad hylendid bwyd arferol. Mae'r sgôr yn dangos pa mor dda mae'r busnes yn cydymffurfio â chyfraith yn ymwneud â hylendid bwyd adeg yr arolygiad.
Wrth gynnal arolygiadau hylendid bwyd bydd swyddog yn ystyried y meysydd canlynol, a fydd wedyn yn pennu sgôr hylendid bwyd y busnes:
- Hylendid – sut mae'r bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei aildwymo, ei oeri a'i storio.
- Cyflwr strwythur yr adeiladau – gan gynnwys glendid, cynllun, goleuadau, awyru a chyfleusterau eraill.
- Sut mae diogelwch bwyd yn cael ei reoli yn y busnes a sut mae'r busnes yn cofnodi'r hyn y mae'n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel.
Mae busnesau bwyd yn cael sgôr ar raddfa. '0' yw’r sgôr isaf, sy’n golygu bod angen gwelliant ar frys. '5' yw’r uchaf, sy'n golygu bod y safonau hylendid yn dda iawn. Cyhoeddir y sgoriau ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Dim sgôr ar eich drws – cewch ddirwy!
Mae'n rhaid i fusnesau bwyd arddangos y sticer sy'n dangos eu sgôr gyfredol mewn man amlwg wrth y fynedfa i'r safle. Mae'n rhaid i fusnesau hefyd roi eu sgôr i gwsmeriaid os gofynnir iddynt wneud hynny, er enghraifft, os bydd cwsmer yn archebu cludfwyd dros y ffôn, ac arddangos y sgôr ar unrhyw daflenni hysbysebu a bwydlenni.
Mae methu ag arddangos sticer sgorio hylendid bwyd dilys yn drosedd. Gall swyddogion roi hysbysiadau cosb benodedig i fusnesau nad ydynt yn arddangos sgôr ddilys. Bydd hysbysiad cosb benodedig yn rhoi cyfle i unigolyn dalu tâl cosb o £200 o fewn cyfnod o 28 diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb, neu dâl cosb gostyngol o £150 os telir o fewn 14 diwrnod.
Iechyd yr Amgylchedd
Bwyd a Hylendid
- Cofrestrwch Eich Busnes Bwyd
- Cymeradwyo safleoedd bwyd
- Tystysgrif allforio bwyd
- Arolygiadau hylendid bwyd
- Gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bwyd
- Samplu bwyd
- Alergenau bwyd
- Labelu bwyd
- Labelu bwydlenni
- Newidiadau i gofrestriad sydd eisoes yn bodoli
- Cau Busnes Bwyd
- Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd
- Gofyn am ailarolygiad o'ch busnes bwyd
- Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd
- Cyngor busnesau bwyd sylfaenol
- Rheoli diogelwch bwyd
- Hyfforddiant diogelwch bwyd
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd