Labelu bwydlenni
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/04/2024
Mae llai o ofynion labelu o ran bwyd sy'n cael ei werthu gan sefydliadau arlwyo (gan gynnwys bwytai, ffreuturau, tafarndai, clybiau, ysgolion neu debyg, ac arlwywyr symudol fel faniau bwyd brys) nag ar gyfer bwyd wedi'i ragbecynnu, ond mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi fod yn gywir heb fod yn gamarweiniol.
Mae hyn yn gymwys i'r holl wybodaeth, pa un a chaiff ei rhoi yn ysgrifenedig, megis ar fwydlen neu fwrdd sialc, neu ar lafar mewn ymateb i gwestiwn gan gwsmer, er enghraifft.
- sicrhewch fod y disgrifiadau a wnewch yn gywir, a'u bod yn cyfateb i'r rheini a roddwyd gan eich cyflenwr (ar ffurflenni archeb, dogfennau cludo, anfonebau neu ar ddeunydd pacio'r cynnyrch) - er enghraifft, os yw disgrifiad y cyflenwr yn nodi 'sgampi wedi'u hailffurfio', dylai'r disgrifiad ar y fwydlen hefyd nodi 'sgampi wedi'u hailffurfio'. Gofynnwch i'ch cyflenwr os bydd gennych unrhyw amheuaeth am gywirdeb eich disgrifiadau
- cofiwch y gall manylebau cynhyrchion newid dros amser, felly bydd angen i chi eu cadarnhau'n barhaus
- dylech fod yn arbennig o ofalus wrth newid cyflenwr
- dywedwch wrth gwsmeriaid am unrhyw newidiadau i ddisgrifiadau cynhyrchion. Os yw'r newid yn un parhaol, bydd angen i chi addasu'r fwydlen
- sicrhewch bob amser eich bod chi a phob un o'ch cyflogeion yn dilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd gydag unrhyw sesnin/lliw. Os nad oes cyfarwyddiadau, neu os nad ydynt yn glir, gofynnwch i'ch cyflenwr am ragor o fanylion yn ysgrifenedig. Peidiwch â dyfalu na dibynnu ar wybodaeth ar lafar
Dim ond cynhyrchion a wnaed o gynffonau cyfan rhywogaeth Nephrops norvegicus y gellir cyfeirio atynt fel 'sgampi cynffon cyfan' neu 'sgampi'. Ni ddylid defnyddio'r term 'sgampi cynffon cyfan' ar gyfer cynhyrchion a wnaed o ddarnau wedi'u hailffurfio o sgampi; rhaid i'r cynnyrch hwn gael ei ddisgrifio fel 'sgampi wedi'u hailffurfio'.
Dim ond os yw'r corgimychiaid yn perthyn i un o dair rhywogaeth benodol o gorgimychiaid a restrir yn nogfen' Commercial Designations of Fish' Defra ac os ydynt o'r maint cywir y gellir defnyddio'r disgrifiad hwn.
Dim ond os yw'r corgimychiaid yn perthyn i un o'r rhywogaethau a restrir yn nogfen 'Commercial Designations of Fish' Defra y gellir defnyddio'r disgrifiad hwn.
Ni ddylid defnyddio'r termau hyn os yw'r cyw iâr wedi'i dorri'n ddarnau a'i siapio. Dylech hefyd gadarnhau nad ydych yn prynu cyw iâr sy'n cynnwys dŵr ychwanegol a phroteinau eraill, megis o rywogaeth arall o anifail neu sy'n deillio o laeth. Os dylai eich cyw iâr gael ei labelu fel cynnyrch sy'n cynnwys cynhwysion eraill, efallai y byddwch yn torri'r gyfraith os na fyddwch yn ei gwneud yn glir i ddefnyddwyr nad yw'r cynnyrch wedi'i wneud yn gyfan gwbl o gig cyw iâr pur.
Mae gofynion cyfansoddiadol cyfreithiol yn bodoli mewn perthynas â chynnwys cig gofynnol selsig, byrgyrs cig eidion, pastenni, pasteiod, rholiau selsig ac ati. Ni ellir galw bwyd yn selsigen, pastai, ac ati oni bai ei fod yn cydymffurfio â'r cynnwys cig gofynnol ar gyfer y cynnyrch hwnnw. Dylai cynhyrchion a elwir yn 'ham' gael eu sleisio o ddarn cyfan o gig wedi’i halltu o goes ôl mochyn. Rhaid i gynhyrchion sy'n deillio o'r ysgwydd neu sydd wedi'u 'ffurfio', eu 'hailffurfio' neu sy'n cynnwys mwy na 5% o bwysau'r cynnyrch gorffenedig gael eu disgrifio'n gywir.
Ni ddylid defnyddio'r disgrifiad hwn os yw'r bwyd wedi'i stemio a'i rostio'n gyflym.
Dim ond os yw'r cynnyrch wedi'i drin â mwg y dylid defnyddio'r disgrifiad hwn. Os mai dim ond ychwanegu blas mwg a wnaed, dylid defnyddio'r disgrifiad 'blas mwg'.
Dylid bod yn ofalus wrth wneud honiadau am darddiad neu broses gynhyrchu'r cynhwysion a ddefnyddiwyd neu'r cynnyrch terfynol rydych yn ei werthu. Mae canllawiau ar ddefnyddio'r termau ffres, naturiol, ac ati ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Dylid sicrhau bod unrhyw brydau llysieuol wedi'u cynhyrchu heb unrhyw gyswllt â chig, pysgod neu bysgod bwyta o'r môr ac nad ydynt wedi'u halogi â hwy. Mae hyn yn cynnwys defnyddio olewau ar wahân i ffrio prydau llysieuol a gwirio cynhwysion sawsiau yn ofalus. Mae rhai cawsiau'n cynnwys ceuled, sef sgil-gynnyrch anifail nad yw'n addas felly i lysieuwyr.
Mae angen i chi roi gwybodaeth i ddefnyddwyr am yr alergenau y mae pob un o'ch cynhyrchion neu brydau yn eu cynnwys. Dylech fod yn arbennig o ofalus wrth ymdrin â bwyd y disgrifir ei fod yn addas i bobl ag alergedd, naill ai drwy ddisgrifiad ysgrifenedig neu ar lafar. Mae angen i chi fod yn ofalus iawn, yn enwedig mewn perthynas â defnyddwyr sydd ag alergedd i gnau a allai gael adwaith angheuol o ganlyniad i lefelau bach iawn o halogi. Mae cyngor manwl ar alergedd ac anoddefiad ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Rhaid i ddisgrifiadau - fel 'rholiau pancos (6)' neu 'hanner hwyaden' - fod yn gywir.
Mae'r gyfraith yn pennu uchafswm lefelau ar gyfer lliwiau mewn bwydydd amrywiol, a dim ond lliwiau penodol y gellir eu defnyddio. Canfuwyd bod rhai sawsiau, fel sawsiau sur a melys a chymysgeddau o sbeisys tandwri, weithiau'n cynnwys gormod o liwiau. Dylid bod yn ofalus wrth wneud y sawsiau hyn os byddwch yn defnyddio lliwiau neu gymysgeddau sy'n cynnwys lliwiau.
Rhaid i unrhyw gynhyrchion sy'n defnyddio enwau bwyd a ddiogelir gan yr UE (fel Pastai Gernyw) gydymffurfio â gofynion cyfansoddiadol a/neu ofynion o ran tarddiad. Mae rhagor o wybodaeth am enwau bwyd a ddiogelir, gan gynnwys rhestr o enwau sydd wedi'u cofrestru yn y DU, ar gael ar wefan GOV.UK.
Dylid disgrifio llaeth amrwd fel a ganlyn: 'Nid yw'r llaeth a gyflenwir yn y sefydliad hwn wedi'i drin â gwres ac felly gall gynnwys organebau sy'n niweidiol i iechyd.'
Rhaid hysbysu cwsmeriaid am unrhyw fwyd sydd wedi'i goginio ag olew GM.
Os byddwch yn dewis rhoi gwybodaeth am galorïau neu gynnwys maethol arall eich prydau, byddem yn eich cynghori i gael cyngor gennym. Mae rhagor o wybodaeth am labelu calorïau y tu allan i'r cartref ar gael ar wefan yr Adran Iechyd.
Mae'n drosedd i arddangos gwybodaeth gamarweiniol neu anghywir. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau cywirdeb disgrifiadau a ddefnyddir ar eich safle arlwyo.
Gall methu â chydymffurfio arwain at gyhoeddi hysbysiad gwella, yn ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio. Mae'n drosedd i beidio â chydymffurfio â'r hysbysiad gwella o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Y gosb fwyaf mewn achos o gollfarn yw dirwy anghyfyngedig a/neu ddwy flynedd o garchar.
Os na fydd gwybodaeth am alergenau yn cydymffurfio â'r gofynion, ystyrir bod hynny'n drosedd o dan Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014. Y gosb fwyaf mewn achos o gollfarn yw dirwy o £5,000.
Iechyd yr Amgylchedd
Bwyd a Hylendid
- Cofrestrwch Eich Busnes Bwyd
- Cymeradwyo safleoedd bwyd
- Tystysgrif allforio bwyd
- Arolygiadau hylendid bwyd
- Gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bwyd
- Samplu bwyd
- Alergenau bwyd
- Labelu bwyd
- Labelu bwydlenni
- Newidiadau i gofrestriad sydd eisoes yn bodoli
- Cau Busnes Bwyd
- Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd
- Gofyn am ailarolygiad o'ch busnes bwyd
- Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd
- Cyngor busnesau bwyd sylfaenol
- Rheoli diogelwch bwyd
- Hyfforddiant diogelwch bwyd
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd