Samplu bwyd
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/08/2023
Mae'n ofynnol i ni orfodi darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a'r rheoliadau a wneir oddi tani. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rheoli cyfansoddiad bwyd a labelu, a'r drosedd fwyaf difrifol yw gwerthu 'bwyd niweidiol' i brynwyr, nad yw o'r natur, y sylwedd na'r ansawdd gofynnol.
Mae'r rhan fwyaf o gamau gorfodi am ddisgrifiadau anghywir yn deillio o samplau ffurfiol o fwydydd. Os dangosir bod sampl yn anghywir, mae nifer o gamau posibl y gellir eu cymryd: rhybudd llafar, rhoi hysbysiad gwella, llythyr rhybudd adrannol, rhybudd ffurfiol, neu erlyn.
Bydd y mwyafrif o gamau gorfodi am ddisgrifiadau anghywir yn deillio o gymryd samplau ffurfiol o fwydydd (sy'n cynnwys diodydd). Gellir cymryd samplau ffurfiol am resymau amrywiol, fel:
- cwynion gan ddefnyddwyr
- gwyliadwriaeth
- yn ystod arolygiad fel mater o drefn
Caiff y gweithdrefnau ar gyfer samplu eu rheoli'n gaeth gan reoliadau a chodau ymarfer penodol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi'r pŵer i'n swyddogion awdurdodedig brynu neu gymryd samplau bwyd ar bob awr resymol; h.y. pan fydd y busnes yn gweithredu a'r staff ar y safle. Gallai gwrthod i swyddog awdurdodedig gymryd sampl arwain at gyflwyno trosedd rwystro.
Fel arfer, bydd samplau bwyd ffurfiol yn cynnwys naill ai un sampl wedi'i rhannu'n dair rhan unfath, neu dair sampl wedi'u cymryd o swp sydd ar gael, yn dibynnu ar yr hyn sy'n cael ei samplu a'r profion dan sylw. Dosberthir y tair rhan fel a ganlyn:
- caiff un ei dewis a'i chadw gan y busnes;
- caiff un ei chyflwyno gan y swyddog i ddadansoddwr cyhoeddus ei dadansoddi
- caiff un ei storio'n ddiogel gyda'r swyddog rhag ofn y bydd anghydfod
Os ydych wedi gweithgynhyrchu neu newid y bwyd, neu wedi cymhwyso'r disgrifiad sy'n cael ei brofi at y bwyd, gallech fod yn gyfrifol am unrhyw drosedd. Os mai dim ond manwerthu'r bwyd a gyflenwyd i chi yn yr un cyflwr rydych yn ei wneud, efallai mai eich cyflenwr/y gweithgynhyrchydd fydd yr unigolyn cyfrifol.
Mae'r rhan o'r sampl a gedwir gennych chi yn bwysig iawn a dylech ei storio'n ddiogel hyd nes y cewch y canlyniadau dadansoddol.
Mae'n bwysig eich bod yn cymryd y camau canlynol mewn perthynas â'r sampl a gadwyd gennych:
- dylech gadw cofnod clir o'r man lle caiff y sampl ei storio, fel y gellir dod o hyd iddi'n hawdd yn y dyfodol
- dylech sicrhau'r amodau storio gorau a argymhellwyd (gweler 'Storio rhannau o samplau' isod)
- dylech roi gwybod i'r brif swyddfa (os yw'n gymwys) bod sampl swyddogol wedi'i chymryd
- os byddwn yn rhoi gwybod i chi am broblem gyda'r rhan o'r sampl a gymerwyd gennym, efallai y byddwch yn dymuno profi'r sampl (os oes gennych gyfleusterau addas) neu drefnu i barti annibynnol wneud hynny
- os caiff y sampl ei hanfon i'w dadansoddi'n annibynnol, rhaid i chi sicrhau eich bod yn rhoi manylion clir am y prawf y mae angen ei gynnal a'r amodau storio (lle y bo angen), ac y caiff y sampl ei storio'n briodol wrth ei chludo i'r labordy
Os bydd anghydfod ynghylch y dadansoddiad, caiff y gyfran olaf ei hanfon i labordy Cemegydd y Llywodraeth, sydd â'r gair olaf o ran y canlyniad.
Os profir bod sampl yn anghywir, gellir cymryd nifer o gamau posibl yn eich erbyn:
- rhybudd llafar
- cyflwyno hysbysiad gwella
- llythyr rhybudd adrannol
- hysbysu'r holl gyrff â buddiant am rybudd syml, gan gynnwys yr awdurdod gwreiddiol a'r Awdurdod Cartref
- erlyn
Weithiau, efallai y cewch gyfarwyddiadau penodol gan y swyddog samplu, a dylech ddilyn ei arweiniad - er enghraifft, pan fydd bwyd ffres yn cael ei samplu i ganfod pa un a gafodd ei rewi'n flaenorol.
Mewn rhai achosion, bydd swyddogion samplu yn mynd â chynnyrch cyfan fel sampl unigol - pasteiod, er enghraifft - er mwyn canfod faint o'r cynhwysion gwahanol sydd yn y cynnyrch cyfan ar ffurf canran.
Iechyd yr Amgylchedd
Bwyd a Hylendid
- Cofrestrwch Eich Busnes Bwyd
- Cymeradwyo safleoedd bwyd
- Tystysgrif allforio bwyd
- Arolygiadau hylendid bwyd
- Gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bwyd
- Samplu bwyd
- Alergenau bwyd
- Labelu bwyd
- Labelu bwydlenni
- Newidiadau i gofrestriad sydd eisoes yn bodoli
- Cau Busnes Bwyd
- Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd
- Gofyn am ailarolygiad o'ch busnes bwyd
- Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd
- Cyngor busnesau bwyd sylfaenol
- Rheoli diogelwch bwyd
- Hyfforddiant diogelwch bwyd
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd