Gwneud cwyn am safle trwyddedig
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/08/2025
Bydd yr heddlu yn delio â digwyddiadau troseddu ac anhrefn ar safleoedd trwyddedig neu gerllaw. Cysylltwch â Swyddog Trwyddedu'r Heddlu drwy ffonio 101 - estyniad 26464 i wneud cwyn, neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.
Yn achos gwerthu alcohol i rai o dan oed, mae Safonau Masnach yn cynnal ymarferion prawf-brynu ar safleoedd trwyddedig, ac maent hefyd yn ymchwilio i gynnyrch alcohol a thybaco ffug a rhai lle na thalwyd y dreth.
Gall ein tîm iechyd y cyhoedd ymchwilio i safleoedd trwyddedig ssy'n achosi niwsans cyhoeddus neu os oes gennych unrhyw bryderon iechyd a diogelwch cyffredinol. E-bostiwch ein tîm Iechyd y Cyhoedd neu ffoniwch 01267 234567 yn ystod oriau swyddfa.
Os ydych am roi gwybod am bryderon ynghylch diogelwch tân ar safle trwyddedig, dylech gysylltu â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru drwy ffonio 0870 6060699, neu 999 mewn argyfwng.
Os ydych yn ansicr at bwy y dylid cyfeirio eich cwyn ynghylch safle trwyddedig, hysbysiad digwyddiad dros dro neu dystysgrif safle clwb, cysylltwch â ni.