Cyflwyno cais
Os nad yw'r ffurflen gais sydd ei hangen arnoch ar gael ar y dudalen hon, ewch i'r dudalen Cysylltu â ni.
Os nad yw'r ffurflen gais sydd ei hangen arnoch ar gael ar y dudalen hon, ewch i'r dudalen Cysylltu â ni.
Os ydych chi wedi gordalu eich Treth Gyngor gallwch chi wneud cais am ad-daliad. Os hoffech chi i'r ad-daliad gael ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc, cysylltwch ag adain y Dreth Gyngor yn uniongyrchol drwy ffonio 01554 742200 neu anfon e-bost at Trethcyngor@sirgar.gov.uk
Rhaid i chi wneud cais am ganiatâd os ydych chi am osod addurniadau tymhorol uwchben neu ger ffordd, er enghraifft goleuadau Nadolig. baneri ac ati.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am addurniadau tymhorol
Os oes angen i chi gloddio'r ffordd fel rhan o unrhyw waith ffordd, bydd angen i chi gyflwyno cais am drwydded adran 171.
Ar gyfer unrhyw waith ffordd sydd angen goleuadau traffig cludadwy bydd angen i chi gyflwyno cais.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am oleuadau traffig cludadwy
Gallwch wneud cais am arwyddion brown ar gyfer atyniadau ymwelwyr, gwestai / gwestai bach, bwytai, tafarndai, hosteli ieuenctid, safleoedd gwersylla a charafanau, addoldai.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am arwyddion twristiaeth brown
Mae'r Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn gyfrifol am gefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhain yn cynnwys: A477, A40, A48, A483. Dylid rhoi gwybod yn uniongyrchol iddynt am unrhyw weithiau neu faterion.
Os ydych chi'n denant i ni, gallwch chi wneud cais am waith atgyweirio er mwyn rhoi gwybod i ni beth sydd angen ei atgyweirio yn eich tŷ. Os ydych chi'n rhentu eich tŷ yn breifat bydd angen i chi siarad â'ch landlord am unrhyw atgyweiriadau.
Gwneud cais am waith atgyweirio
Gwybodaeth am waith atgyweirio
Gallwch wneud cais am fae parcio i'r anabl ond os caiff eich cais ei gymeradwyo, gall unrhyw yrrwr sy'n arddangos bathodyn glas dilys ei ddefnyddio.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am leoedd parcio i'r anabl
Yn caniatáu i deithwyr neu yrwyr barcio mewn ardaloedd dynodedig. Mae ceisiadau'n cymryd hyd at 8 wythnos i'w prosesu.