Budd-daliadau Tai
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:
- Cyfrifo faint o Fudd-daliadau Tai a Gostyngiadau'r Dreth Gyngor y mae hawl gennych eu cael
- Delio â cheisiadau a thaliadau o ran Taliadau Tai Dewisol
- Atal twyll er mwyn helpu i atal a chanfod twill
- Adfer Gordaliadau
- Eich helpu chi i dalu am eich anghenion tai.
- Darparu cymorth lles
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y canlynol:
- Rheoliadau Budd-daliadau Tai 2006
- Rheoliadau Budd-daliadau Tai 2006 (personau sydd wedi cyrraedd oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth)
- Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
- Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (Diwygio) 2017
- Rheoliadau Diwygio Nawdd Cymdeithasol (Taliadau Tai Dewisol) 2001
Rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth am eich iechyd oherwydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth y cyfeirir ato uchod. Rydym yn prosesu gwybodaeth am eich dedfrydau troseddol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ac hefyd ar sail y ddeddfwriaeth hon.
Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, mae'n bosibl na fyddwn yn gallu cyfrifo faint o fudd-dal y mae hawl gennych i'w gael a gwneud taliadau i'ch helpu i dalu am eich costau tai.
Weithiau mae angen gwybodaeth am bobl heblaw am y person sydd wedi gwneud cais am Budd-dal Tai. Er enghraifft, pan fo person yn gwneud cais am Fudd-dal Tai, mae angen gwybodaeth am bobl eraill sy'n byw yn yr un aelwyd i weithio allan faint o fudd-dal y bydd gan yr hawlydd hawl i.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Manylion Banc/Talu
- Eich Teulu
- Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
- Eich Amgylchiadau Ariannol
- Manylion Cyflogaeth ac Addysg
- Eich Anghenion Tai
- Delweddau/Ffotograffau
- Gwybodaeth am eich Iechyd
- Eich cenedl
- Copiau o ddogfennau adnabod
- Dedfrydau a thramgwyddau troseddol, lle y bo'n berthnasol
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Adran Gwaith a Phensiynau
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
- Landlordiaid
- Cyflogwyr
- Gwasanaethau Tai y Cyngor
- Adain y Dreth Gyngor y Cyngor
- Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Plant
- Gwasanaeth Carchardai
- Asiantiaid Gorfodi
- Asiantaeth Gorfodaeth yr Uchel Lys ynghylch adennill dyledion
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Manylion Banc/Talu
- Eich Teulu
Gwneud penderfyniadau awtomataidd
Mae yna achosion pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau awtomataidd, pan fydd eich data personol yn cael ei lawrlwytho’n electronig o systemau’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Pan fydd rhywun yn gwneud hawliad gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’n fydd newid yn eu hamgylchiadau ynghylch eu Credyd Cynhwysol, rydym yn derbyn hysbysiad mewn ffeil electronig sy’n cael ei lanlwytho i’n system budd-daliadau. Bydd hyn wedyn yn ail-gyfrifo eich hawl i Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor yn awtomatig, a bydd yn cynhyrchu llythyr hysbysu a anfonir atoch. Mae hwn yn ffordd gyflym a chywir o sicrhau eich bod yn cael yr hyn y mae gennych hawl iddo.
Rydym yn gwneud hyn yn seiliedig ar un o’r eithriadau i’r hawl i beidio â bod yn destun i benderfyniadau awtomataidd a welir yn Erthygl 22 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Hynny yw, mae’r broses o wneud y penderfyniadau wedi’i hawdurdodi gan y gyfraith, sef y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn rhan 1 o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig. Pan fyddwn ni'n rhannu gwybodaeth, rydym ym mhob achos yn darparu cyn lleied ag sydd ei angen i'r canlynol:
- Adran Gwaith a Phensiynau
- Menter Twyll Genedlaethol
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
- Ein Cyflenwr Meddalwedd
- Swyddfa Archwilio Cymru
- Cyflogwyr
- Rydym yn defnyddio cwmni i gynorthwyo gyda dadansoddi data
- Eich landlord
- Gweithio Sir Gar, lle cewch eich cyfeirio am gymorth cyflogaeth
Rydym yn cymryd rhan mewn prosiect rhannu data a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a rydym yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r cwmni sydd yn cyflawni y waith hwn (Policy in Practice).
Yn ogystal, mae'n bosibl y byddwn yn rhannu'ch gwybodaeth â'r gwasanaethau Cyngor canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Y Gwasanaethau Tai
- Y Dreth Gyngor
- Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Codi Tâl Tecach
- Ymchwilio i Dwyll
- Cofrestru Etholiadol
- Gwella Cartrefi
- Gweinyddu Ysgolion
- Prydau Ysgol am Ddim
- Archwilio Mewnol
- Ardrethi Annomestig (Busnes) Cenedlaethol
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth cyhyd ag yr ydych yn gymwys ar gyfer taliadau Budd-dal Tai ac am 7 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn y mae'ch cymhwysedd yn dod i ben. Mae hyn yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd -2 (2025-2030)
- Arolwg Troseddau ac Anhrefn
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033 - Ymgynghoriad ar Safleoedd Ychwanegol yn y CDLl Diwygiedig
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Cyfnewidfa Trafnidiaeth Aml-ddull Llanelli
- Gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed)
- Ymgynghoriad - Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
- Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyhoeddus Ddrafft - Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2025
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri
- Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024
- Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Canllaw Dylunio Tu Blaen Siop Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Effeithlonrwydd Ynni Priodol mewn Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar Gyfer Cynaliadwyedd
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Y Gymraeg
- Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
- Teithio Llesol Caerfyrddin
- Ymgysylltiad Teithio Llesol Llanelli
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
- Polisi Diogelu Corfforaethol Tachwedd 2023
- Strategaeth Ddigidol 2024 -2027
- Strategaeth Moderneiddio Addysg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-24
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
- Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf