Canolfan Awyr Agored Pentywyn
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth a gesglir gan y Ganolfan amdanoch chi a'ch plentyn yn cael ei defnyddio at ddibenion:
- Cymryd archebion grŵp a threfnu llety yn y Ganolfan
- Ymarfer ein dyletswydd gofal i ofalu am blant a phobl ifanc sy'n mynychu'r Ganolfan
- Tynnu ffotograffau a'u defnyddio nhw ar gyfer deunydd hyrwyddo, gwefannau a'r cyfryngau cymdeithasol
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu data personol ar gyfer y dibenion hyn yw ein bod ni'n ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gynnal cyfleusterau hamdden o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae hyn yn golygu nad ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i ddefnyddio data personol.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn gofyn ichi lenwi ffurflen pan fydd eich plentyn yn mynychu'r Ganolfan ac rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:
- Eich Enw
- Enw eich Plentyn
- Eich Cyfeiriad Cartref
- Dyddiad Geni eich Plentyn
- Rhyw
- Ysgol eich Plentyn
- Rhif Ffôn Cyswllt
- Eich Cyfeiriad E-bost
- Manylion eich Meddyg
Rydym yn tynnu ffotograffau a recordiadau fideo o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cael eu cyhoeddi yn bennaf ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bosibl y bydd y rhain hefyd yn cael eu defnyddio mewn deunyddiau print a digidol gan gynnwys cyhoeddiadau wedi'u hargraffu, gwefannau, deunydd e-farchnata, posteri, baneri a deunydd hysbysebu.
Yn ogystal, rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth berthnasol am iechyd eich plant, megis anghenion deietegol, alergeddau, cyflyrau iechyd a meddyginiaethau maent yn eu cymryd er mwyn i ni sicrhau eu bod yn ddiogel yn ystod eu hamser yn y Ganolfan.
Y sail gyfreithiol dros brosesu data personol am iechyd plant yw yn syml, er eu budd nhw, er mwyn gofalu amdanynt.
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych chi mewn ffurflen ond hefyd mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn gwybodaeth o ysgol eich plentyn.
Fel arfer, ceir y mathau canlynol o ddata personol:
- Enw
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Cynlluniau gofal mewn perthynas ag anghenion iechyd penodol y mae'r ysgol wedi bod yn rhan o'u creu neu eu gweithredu.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU. Ni fydd y data personol a gesglir yn cael ei drosglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac eithrio ffotograffau a fideos sy'n cael eu llwytho ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau, y mae modd cael mynediad iddynt ledled y byd.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Fel arfer ni chaiff y data personol rydych yn ei ddarparu i ni ei rannu ag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin, nac ychwaith ag unrhyw drydydd parti y tu allan i'r sefydliad. Fodd bynnag, mae'r Ganolfan yn rhannu gwybodaeth â'r canlynol:
- Mewn achos o ddamwain neu ddigwyddiad, mae'n ofynnol i ni roi gwybod am y rhain i Uned Iechyd Galwedigaethol a Diogelwch y Cyngor.
- Mae'n bosibl y bydd ffotograffau a delweddau'n cael eu rhannu â chysylltiadau cyfryngau lleol a rhanbarthol.
Mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Rydym yn cadw'r data personol rydym yn ei gasglu cyhyd ag y mae eich plentyn yn mynychu'r Ganolfan. Yna, rydym yn gwaredu'r wybodaeth yn ddiogel.
Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd delweddau a gymerir yn y Ganolfan yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol fel archif.
Caiff cofnodion o ddamweiniau mewn perthynas â phlant eu cadw gan ein Huned Iechyd Galwedigaethol a Diogelwch am 25 o flynyddoedd.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd -2 (2025-2030)
- Arolwg Troseddau ac Anhrefn
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033 - Ymgynghoriad ar Safleoedd Ychwanegol yn y CDLl Diwygiedig
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Cyfnewidfa Trafnidiaeth Aml-ddull Llanelli
- Gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed)
- Ymgynghoriad - Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
- Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyhoeddus Ddrafft - Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2025
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri
- Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024
- Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Canllaw Dylunio Tu Blaen Siop Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Effeithlonrwydd Ynni Priodol mewn Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar Gyfer Cynaliadwyedd
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Y Gymraeg
- Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
- Teithio Llesol Caerfyrddin
- Ymgysylltiad Teithio Llesol Llanelli
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
- Polisi Diogelu Corfforaethol Tachwedd 2023
- Strategaeth Ddigidol 2024 -2027
- Strategaeth Moderneiddio Addysg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-24
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
- Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf