Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei chasglu a'i chadw at y dibenion canlynol:
- Rhoi cyngor cyfreithiol i aelodau a swyddogion y Cyngor ac i gyrff allanol yr ydym hefyd yn darparu cyngor cyfreithiol iddynt, megis Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
- Cynnal achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd
- Cynnal trafodion cyfreithiol eraill ar ran y Cyngor megis gwerthu a throsglwyddo eiddo
Y sail gyfreithlon dros brosesu y wybodaeth hon yw:
- Erthygl 6.1(c) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU – pan fo rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor i wneud rhywbeth, neu
- Erthygl 6.1(e) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU - pan fo'r Cyngor yn cyflawni tasg er budd y cyhoedd, neu wrth arfer awdurdod swyddogol y Cyngor.
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am eich iechyd a data personol (sensitif) categori arbennig arall lle bo hynny'n angenrheidiol at y dibenion a amlinellir uchod.
Mae gwybodaeth am euogfarnau troseddol hefyd yn cael ei phrosesu o dan reolaeth awdurdod swyddogol, lle bo hynny'n angenrheidiol at y dibenion a nodir uchod.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Gwybodaeth am rywedd neu bennu rhywedd
- Rhifau cyfeirio unigryw
- Rhifau Ffôn
- Cyfeiriadau e-bost
- Manylion Banc/Talu
- Eich Teulu
- Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
- Eich Amgylchiadau Ariannol
- Manylion Cyflogaeth ac Addysg
- Gwybodaeth am anghenion tai
- Delweddau/Ffotograffau
- Rhifau cofrestru Cerbydau
Lle bo'n berthnasol, rydym yn defnyddio'r mathau canlynol o ddata personol sensitif (gelwir yn data categori arbennig):
- Gwybodaeth am eich Iechyd
- Hil neu darddiad ethnig
- Barn wleidyddol
- Cred Grefyddol neu Athronyddol
- Aelodaeth o undeb llafur
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu'ch cyfeiriadedd rhywiol
- Collfarnau neu droseddau
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi o'r ffynonellau canlynol:
- Pob adran arall o'r Cyngor yr ydym yn darparu gwasanaethau cyfreithiol ar eu cyfer
- Y Llysoedd a Thribiwnlysoedd
- Awdurdodau Lleol Eraill
- Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac asiantaethau llywodraethol cenedlaethol
- Yr Heddlu a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- Sefydliadau trydydd sector fel elusennau a grwpiau cymunedol
- Unigolion preifat eraill, busnesau sector preifat a'u cynrychiolwyr cyfreithiol.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth. Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn darparu cyn lleied o wybodaeth ag sy'n angenrheidiol ym mhob achos i'r canlynol:
- Aelodau a Swyddogion y Cyngor
- Gweithwyr cyfreithiol allanol sy'n gweithio i ni
- Llysoedd a Thribiwnlysoedd
- Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
- Awdurdodau Lleol Eraill
- Yr Heddlu a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- Sefydliadau trydydd sector fel elusennau a grwpiau cymunedol
- Unigolion preifat eraill, busnesau sector preifat a'u cynrychiolwyr cyfreithiol
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am y cyfnod y mae ei hangen yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd -2 (2025-2030)
- Arolwg Troseddau ac Anhrefn
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033 - Ymgynghoriad ar Safleoedd Ychwanegol yn y CDLl Diwygiedig
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Cyfnewidfa Trafnidiaeth Aml-ddull Llanelli
- Gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed)
- Ymgynghoriad - Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
- Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyhoeddus Ddrafft - Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2025
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri
- Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024
- Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Canllaw Dylunio Tu Blaen Siop Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Effeithlonrwydd Ynni Priodol mewn Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar Gyfer Cynaliadwyedd
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Y Gymraeg
- Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
- Teithio Llesol Caerfyrddin
- Ymgysylltiad Teithio Llesol Llanelli
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
- Polisi Diogelu Corfforaethol Tachwedd 2023
- Strategaeth Ddigidol 2024 -2027
- Strategaeth Moderneiddio Addysg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-24
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
- Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf