Gweithio Sir Gâr

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch at ddibenion darparu cyngor a chymorth, i'ch helpu i wneud cynnydd tuag at gyflogadwyedd.

Y sail gyfreithlon dros brosesu'r wybodaeth hon yw ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu fel rhan o arfer awdurdod swyddogol a roddir inni.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd neu bennu rhywedd
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Delweddau/ffotograffau

Lle bo'n berthnasol, rydym yn defnyddio'r mathau canlynol o ddata personol sensitif (gelwir yn ddata categori arbennig) ar y sail bod hynny o fudd sylweddol i'r cyhoedd:

  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Hil neu darddiad ethnig

Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth am unrhyw euogfarnau a throseddau, ond unwaith eto, dim ond pan fydd hyn yn berthnasol er mwyn rhoi cymorth ichi. Y sail gyfreithlon dros hyn yw bod defnyddio'r math hwn o ddata personol o dan reolaeth awdurdod swyddogol neu wedi'i awdurdodi gan gyfraith ddomestig.

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi o'r ffynonellau canlynol:

  • Adran Gwasanaethau Corfforaethol y Cyngor
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor (Canolfannau Hwb)
  • Cymunedau am Waith a Mwy
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cysylltu Sir Gâr
  • Unrhyw adrannau eraill yn y Cyngor a sefydliadau sydd â mynediad i'n ffurflen atgyfeirio

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth.  Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd angen inni wneud hynny yn unig.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn darparu cyn lleied o wybodaeth ag sy'n angenrheidiol ym mhob achos i'r canlynol:

  • Tîm Rhanbarthol Gweithio Sir Gâr (Cyngor Sir Caerfyrddin)
  • Tîm Cymorth Cyflogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Gwerthuswyr y Prosiect – byddwch yn cael gwybod am y contractwr cyn i unrhyw gyswllt gael ei wneud

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid inni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Mae Gweithio Sir Gâr yn cadw'r holl ohebiaeth, anfonebau, derbynebau, cofnodion cyfrifyddu, cyfriflenni banc ac unrhyw ddogfennau eraill sy'n ymwneud â'r gwasanaeth am gyfnod o ddeng mlynedd o 31 Mawrth 2025.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd