Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA)
Cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob awdurdod lleol yng Nghymru fod â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Bydd ein strategaeth 10 mlynedd yn dangos sut y byddwn yn datblygu darpariaeth y Gymraeg yn ein hysgolion yn seiliedig ar y canlyniadau a'r targedau sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru er mwyn i'n holl ddysgwyr ddod yn hyderus ddwyieithog.
Y saith nod yw:
- Mwy o blant meithrin/plant 3 oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o blant dosbarth derbyn/plant 5 oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o blant i barhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i gam arall
- Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau a asesir yn y Gymraeg (fel pwng) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol
- Cynnydd yn y ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
- Cynnydd yn y nifer o staff addysgu sy'n gallu addysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Cwestiynau Cyffredin
Rydym wedi llunio'r cwestiynau cyffredin canlynol i roi rhagor o wybodaeth i chi am y Cynllun ac i ateb unrhyw gwestiynau.

Daeth rheoliadau newydd i rym y llynedd i gefnogi nod hirdymor Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r system addysg yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r weledigaeth hon ac mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyfrannu drwy greu eu cynlluniau gweithredu eu hunain ar gyfer darpariaeth addysg Cymraeg yn awr ac yn y dyfodol.
Yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n dechrau ym mis Medi 2022 ar gyfer ysgolion cynradd ac o 2023 ar gyfer ysgolion uwchradd, mae dod yn ddwyieithog ac yn amlieithog yn nodwedd allweddol y maes dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Daeth y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i rym ym mis Ebrill 2021 a bydd dysgu Cymraeg yn orfodol o 3 oed a Saesneg o 7 oed. Mae'n golygu y gall ysgolion cyfrwng Saesneg cyfredol ddysgu Saesneg o 3 oed o hyd, ond erbyn hyn mae ganddynt y ddyletswydd a'r cyfle i gyflwyno'r Gymraeg o 3 oed hefyd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru weithio tuag at gyflawni saith amcan llesiant, gan gynnwys 'Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu'. Mae gennym ddyletswydd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac i weithio tuag at gyflawni'r amcanion llesiant.
Lle mae'r addysgu a dysgu'n cael eu darparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn aml mae dysgwyr yn yr ysgolion hyn yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol, rhai o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad ac eraill lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad. Bydd dysgwyr iau sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfwng y Gymraeg nad ydynt yn siarad Cymraeg gartref yn mynd drwy broses drochi (gan fod yn sensitif i'w hiaith gefndirol). Mae'r holl ddysgwyr yn addysg cyfrwng Cymraeg yn cael eu dysgu yn yr un dosbarth, p'un a ydynt yn siarad Cymraeg gartref neu beidio.
Er eu bod yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, mae'n bwysig pwysleisio y gall disgyblion y Cyfnod Sylfaen ddod yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn 7 oed. Cyflawnir hyn drwy'r dulliau addysgu sensitif a medrus y mae'r ysgolion yn eu defnyddio.
Ceir enghreifftiau o ysgolion yn defnyddio dulliau trochi ym mhob cwr o'r byd. Mae model Canada ar gyfer gweithredu trochi wedi'i gofnodi'n eang. Mae'n dangos bod angen i ddysgwyr gael eu haddysgu'n llawn drwy'r iaith darged am ddwy i dair blynedd i sicrhau bod cymhwysedd yn cael ei datblygu'n ddigonol yn yr iaith. Wedyn bydd iaith arall yn cael ei chyflwyno. Dyma'r model a ddefnyddir yng Nghymru. Mae'n golygu bod dysgwyr yn cael eu haddysgu'n gyfan gwbl drwy'r Gymraeg hyd at a chan gynnwys yr ysgol flwyddyn pryd mae'r rhan fwyaf o'r dysgwyr yn troi'n saith oed. Mae Saesneg yn cael ei chyflwyno fel pwnc tua diwedd y Cyfnod Sylfaen, ac fel cyfrwng addysgu i raddau amrywiol. Fodd bynnag, y Gymraeg fydd prif iaith yr ystafell ddosbarth.
Ein neges allweddol yw peidiwch â phoeni os na allwch siarad Cymraeg gyda'ch plant, nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg i anfon eich plant i gylch chwarae neu ysgol Gymraeg - ac mae llawer y gallwch ei wneud i helpu eich plant i siarad a defnyddio'r iaith.
Ysgolion fydd eich pwynt cyswllt cyntaf o hyd ynghylch dysgu parhaus eich plant. Dylai'r ysgol allu eich cefnogi neu eich cynghori ynghylch y ffordd orau i gefnogi eich plant i gynnal eu sgiliau Cymraeg.
Os gallwch annog eich plant i ddefnyddio'r Gymraeg wrth siarad â ffrindiau, brodyr, chwiorydd neu aelodau eraill o'r teulu sy'n siarad Cymraeg, bydd hynny'n eu helpu i gynnal eu sgiliau.
Gallwch hefyd helpu eich plant drwy eu hannog i fynd i weithgareddau cyfrwng Cymraeg a gwylio rhaglenni teledu Cymraeg, gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, lawrlwytho apiau Cymraeg a gall plant hŷn ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol megis Facebook a Twitter drwy'r Gymraeg. Y peth pwysig yw bod eich plant yn cael cyswllt â'r iaith mor aml â phosibl.
Mae ystod o daflenni gwybodaeth, fideos ac adnoddau eraill i helpu disgyblion a rhieni. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a dolenni cyswllt i sefydliadau sy'n darparu gweithgareddau i blant a phobl ifanc drwy'r Gymraeg ar yr Hwb ac ar ein gwefan.
Yn ogystal, mae gennym dîm ymroddedig ac arbenigol o staff i gefnogi arweinwyr ysgol, athrawon a chynorthwywyr addysgu yn eu gwaith o gyflawni buddion dysgu ieithoedd yn yr ysgol.
Mae ein canolfannau iaith arbenigol yn darparu cymorth i newydd-ddyfodiaid i'r sir yn ogystal â rhaglenni gwella iaith a hyder i ddisgyblion a rhieni.
Mae ysgolion Cymraeg yn nodi cyfarwyddiadau gwaith cartref yn Gymraeg ac yn Saesneg, felly fydd dim trafferth gennych chi o ran deall pa waith sy’n rhaid i’r plentyn ei wneud. Bydd pob ysgol unigol yn fodlon cynnig cyngor ar addysg a bydd y nosweithiau rhieni yn eich dewis iaith chi.
Bydd gwaith yn cael ei osod yn addas i lefel a gallu’r disgybl. Fe fydd, felly, o fewn cyrraedd i’ch plentyn.
Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod plant sy'n cyfieithu tasg i'w rhieni yn cael gwell dealltwriaeth o'r pwnc, gan fod y broses gyfieithu'n atgyfnerthu'r pwnc ym meddwl y plentyn.
Na fydd. Mewn gwirionedd, mae'n bosibl y bydd hyd yn oed yn helpu Saesneg eich plentyn. Drwy ddysgu dwy iaith ar yr un pryd, mae plant yn dod yn ymwybodol o sut y mae ieithoedd yn gweithio yn gyffredinol. Mae canlyniadau diweddar yn awgrymu bod plant sy'n derbyn addysg ddwyieithog yn gwneud yn well ar draws y cwricwlwm - gan gynnwys Saesneg!
Ar gyfartaledd, mae tua 80% o ddisgyblion Sir Gaerfyrddin sy’n derbyn addysg Gymraeg yn cael A* i C yn eu TGAU Saesneg a Chymraeg.
Mae llawer o fanteision o fod yn ddwyieithog o gyrhaeddiad addysg i gyflogadwyedd ac iechyd.
Mae tystiolaeth o well canlyniadau, mae pobl ddwyieithog yn dueddol o fod yn fwy creadigol a hyblyg, ac maent yn ei chael hi'n haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau a dysgu ieithoedd ychwanegol.
Ar gyfartaledd, mae pobl ddwyieithog yn ennill 11% yn fwy, ac mae ymchwil yn dangos y gall dwyieithrwydd helpu i oedi dementia a symptomau eraill Alzheimers.
Mae medru’r Gymraeg hefyd yn rhoi mynediad i agweddau helaeth ar ddiwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fanteision dwyieithrwydd ar ein gwe-dudalen.
Na, gallwn eich sicrhau y byddwn yn parhau i nodi lefelau sgiliau Cymraeg ein staff ac yn datblygu sgiliau a hyder ein gweithlu ysgolion gyda rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr a hyblyg.
Mae Cymraeg yn bwnc gorfodol, craidd yng Nghymru (ochr yn ochr â Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) ac mae'n bwysig ein bod yn cefnogi staff i ymgysylltu'n gadarnhaol â'r hyfforddiant sydd ar gael. Mae sgiliau Cymraeg hefyd yn rhan o'r Safonau Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Athrawon ac Arweinwyr Ysgolion.
Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn bolisi statudol cenedlaethol ac fel gweithwyr y cyngor, mae gennym rôl bwysig i'w chyflawni i sicrhau bod unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu cyflawni.
Bydd rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus hyblyg ar gael i fodloni anghenion hyfforddiant a nodir, i gefnogi'r broses o weithredu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid (yn rhanbarthol, Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Cyrsiau Sabothol Prifysgol y Drindod Dewi Sant) i helpu i ddarparu rhaglenni hyfforddiant gyda ffocws penodol ar addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda phartneriaid i recriwtio, datblygu a hyfforddi gweithlu'r ysgolion yn y dyfodol er mwyn cyflawni'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a dyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg mewn grym o 1 Medi 2022.