Manteision bod yn ddwyieithog
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Yn Sir Gaerfyrddin y nod yw i bob plentyn gael y cyfle i adael yr ysgol a bod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae mwy a mwy o gyflogwyr ledled y sir a Chymru gyfan yn awyddus i recriwtio staff sy'n gallu gweithio'n gyfforddus yn y ddwy iaith.
Mae dwyieithrwydd yn cryfhau’r galluoedd gwybyddol – mae pobl ddwyieithog yn tueddu bod yn fwy creadigol a hyblyg. Maent yn tueddu i fod â meddwl mwy agored, ac maent hefyd yn ei chael yn haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd. Ac mae gallu siarad dwy iaith yn helpu mewn ffyrdd eraill hefyd...
Addysg
- Mae plant dwyieithog yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus mewn addysg. Maent yn tueddu i gyflawni’n well mewn tasgau
- Mae pobl ddwyieithog yn ei gweld yn haws i ddysgu ieithoedd ychwanegol
- Mae plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn gwneud gystal, os nad gwell, yn Saesneg â phlant sy’n cael addysg Saesneg
Tystiolaeth: Adroddiad Estyn - Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 (.pdf) | Erthygl 'The Times' 11.4.17
Gyrfa
- Mae siarad dwy iaith yn rhoi sgil arall i’w roi ar eich ffurflen gais
- Ar gyfartaledd, mae pobl ddwyieithog yn ennill 11% o gyflog ychwanegol
- Mae angen gweithluoedd dwyieithog ar gyflogwyr yng Nghymru, gan fod angen darparu gwasanaethau’n ddwyieithog
Tystiolaeth: Welsh speakers 'more likely to get top qualifications and jobs'
Iechyd
- Mae ymchwil yn dangos bod dwyieithrwydd yn gohirio dechreuad Dementia a symptomau eraill clefyd Alzheimer
Tystiolaeth: Delaying the onset of Alzheimer disease | 'Bilingual people twice as likely to recover from a stroke'
Bywyd
- Mae siarad dwy iaith yn ehangu eich gorwelion
- Mae medru’r iaith Gymraeg yn rhoi mynediad i agweddau helaeth ar ddiwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru
- Mae medru’r Gymraeg yn allwedd i fywyd cymunedol cyfoethog
- Mae medru’r Gymraeg yn rhoi hunaniaeth gadarn ac ymdeimlad o berthyn
- Mae medru newid o un iaith i’r llall yn hyderus yn magu hyder a balchder yn yr unigolyn
- Gall pobl aml-ieithog fod yn fwy goddefgar tuag at ddiwylliannau eraill
Tystiolaeth: Adroddiad ar fanteision dwyieithrwydd 'The Advantages of Bilingualism in Welsh and English' gan Yr Athro Colin Baker
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Oedolion
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi
Mae ein hymddygiad yn eiffeithio ar bawb a phopeth
Herio
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion