Colli ysgol : Colli cyfle



 

Mae pob diwrnod ysgol yn bwysig. Mae pob diwrnod a gollir yn ei gwneud hi'n anoddach dal i fyny, a gall arwain at gyflawniadau is o ran darllen, ysgrifennu a rhifedd.

Mae pob diwrnod y mae plant a phobl ifanc yn ei golli yn effeithio ar eu gallu i wneud cysylltiadau cymdeithasol pwysig a chyfeillgarwch ag eraill.

Mae llawer o resymau pam y dylai plentyn fynd i'r ysgol, sef:

  • Datblygu'n ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Bod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • Datblygu'n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.
  • Bod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae presenoldeb rhagorol yn yr ysgol yn caniatáu i'n plant a'n pobl ifanc gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Os nad yw eich plentyn yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd, efallai y bydd pryderon ynghylch materion diogelu yn cael eu codi am eu lles a'u cynnydd.

.

Astudiaethau Achos

Rydym am i'n disgyblion ddechrau meithrin arferion da a fydd o gymorth mawr iddynt ar gyfer eu dyfodol y tu hwnt i'w cyfnod yn yr ysgol. Dyma 3 o drigolion Sir Gaerfyrddin a fynychodd ein hysgolion ac sy'n gwerthfawrogi sut roedd mynychu'r ysgol wedi rhoi profiadau gwych a ffrindiau da iddynt ynghyd â gyrfa maent yn ei mwynhau.