Deall atgyfeiriad at y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/09/2024
Gall ysgol hefyd eich atgyfeirio at y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion (SSAT) sy'n cefnogi teuluoedd a allai fod yn ei chael hi'n anodd sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.
Mae hwn yn wasanaeth cymorth arbenigol sy'n helpu plant o oedran ysgol gorfodol a'u teuluoedd i fanteisio i'r eithaf ar y system addysg drwy fynychu'r ysgol yn rheolaidd. Gallant gynnig cyngor a chymorth i blant a theuluoedd fel bod gwell presenoldeb yn yr ysgol.
Mae cael eich atgyfeirio at y SSAT yn gynnydd sylweddol yng ngweithdrefnau'r ysgol ar gyfer ymdrin ag absenoldeb a gwneir hyn pan fodlonir meini prawf a bennir gan yr awdurdod lleol, gan gynnwys fel arfer pan fo absenoldeb yn barhaus.
Pan wneir atgyfeiriad o'r fath i'r SSAT, dylai pawb dan sylw ddeall arwyddocâd y cam hwn a'i fod yn dechrau prosesau cyfreithiol a allai arwain at ymyriadau statudol neu sancsiynau.
Ar ôl i atgyfeiriad gael ei dderbyn, bydd Gweithiwr Ymgysylltu â Theuluoedd yn cysylltu â'r teulu a'r ysgol i weld pa gymorth y mae ei angen.
Mae'r tîm hefyd yn gweithio i sicrhau diogelwch mewn lleoliadau ysgol ac yn goruchwylio Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae staff yn hyrwyddo ymgysylltu â theuluoedd i alluogi teuluoedd i oresgyn rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol ac ymgysylltu mewn addysg.
Pan fo'n briodol, bydd yr ysgol yn gweithio gyda chi a'ch plentyn, a gwasanaethau perthnasol eraill, i nodi'r holl gymorth a chamau gweithredu sydd eu hangen mewn cynllun cymorth bugeiliol (PSP).
Nod y cynllun hwn yw helpu'ch plentyn i ymroi i'w ddysgu yn yr ysgol, i gefnogi ei les ac i wella ei bresenoldeb.
Hefyd gellir ysgrifennu cynllun cymorth bugeiliol os yw eich plentyn mewn perygl o gael ei wahardd, gan sicrhau ei fod yn cael yr help sydd ei angen arno i barhau i fod yn ddisgybl yn ei ysgol bresennol ac i fynd i'r afael ag unrhyw heriau neu rwystrau y mae eich plentyn yn ei chael hi'n anodd ymdopi â nhw.
Gellir ysgrifennu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hwn yn cael ei ysgrifennu ar y cyd â'ch plentyn a chi. Bydd y cynllun yn amlinellu anghenion eich plentyn, yr hyn rydych chi i gyd yn gobeithio ei gyflawni a sut y bydd eich plentyn yn cael ei gefnogi ar y daith hon.
Bydd yr holl gynlluniau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd fel bod pawb yn hyderus bod y cymorth cywir ar waith i gefnogi'ch plentyn i fynychu'r ysgol, i gymryd rhan ym mywyd ysgol, i ddysgu ac i wneud cynnydd.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi