Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2026
Dim ond ceisiadau i ysgolion yn Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn. Os ydych yn gwneud cais i ysgol mewn Sir arall, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol.
Cofiwch, hyd yn oed os ydych wedi siarad ag ysgol a’i bod wedi dweud bod lleoedd ar gael, nes ichi wneud cais a chael cadarnhad gennym fod eich plentyn wedi’i dderbyn, ni all ddechrau’r ysgol.
Byddwn yn derbyn ceisiadau ar gyfer ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn unig. Os ydych chi'n gwneud cais am ysgol mewn Sir arall, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol.
Cofiwch, hyd yn oed os ydych wedi siarad ag ysgol a’i bod wedi dweud bod lleoedd ar gael, nes i chi wneud cais a chael cadarnhad gennym fod eich plentyn wedi’i dderbyn, ni all ddechrau’r ysgol.
Wrth wneud cais am le mewn ysgol, mae'n bwysig gwybod bod cludiant ysgol am ddim FEL ARFER ar gael dim ond os yw eich plentyn yn mynychu ei ysgol ddalgylch neu'r ysgol addas agosaf ac yn byw mwy na 2 filltir i ffwrdd (cynradd) neu 3 milltir i ffwrdd (uwchradd).
Os ydych chi'n dewis ysgol nad yw'n ysgol dalgylch neu'r ysgol agosaf, bydd angen i chi wneud eich trefniadau cludiant eich hun.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd sedd wag ar gael ar lwybr cludiant ysgol presennol. Dim ond i blant sy'n byw mwy nag 1 filltir i ffwrdd ond sy'n dal i fod o fewn y terfynau pellter cerdded y cynigir y rhain, ac ni allwn warantu lleoedd.
GWYBODAETH BWYSIG: Bydd newidiadau i ddyddiad dechrau addysg llawn amser plant a gafodd eu geni ar neu ar ôl 1 Medi 2021.
Cael gwybod pryd fydd eich plentyn yn dechrau'r ysgol
Rhowch ddyddiad geni eich plentyn i gael gwybod pryd y dylai ddechrau'r ysgol a phryd y bydd angen i chi wneud cais am le mewn ysgol.
Dyddiad geni eich plentyn
Rhowch ddyddiad dilys












