Gwneud cais am le rhan-amser mewn meithrinfa (3 oed)

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/03/2025

Addysg Blynyddoedd Cynnar – Addysg Feithrin Ran-amser ar gyfer Plant 3 oed.

Gall plant gael mynediad i 10 awr yr wythnos o Addysg a Ariennir gan ddechrau yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Efallai na fydd rhieni bob amser yn dewis gwneud hyn, gan aros i wneud cais am le amser llawn mewn ysgol. Cliciwch yma i wneud cais am le amser llawn mewn ysgol.

Mae addysg ran-amser ar gael mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar cymeradwy ac mewn rhai ysgolion cynradd sy'n cynnig darpariaeth feithrin.

Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar nas Cynhelir Cymeradwy

Cliciwch yma i weld rhestr o leoliadau nas cynhelir yn Sir Gaerfyrddin. Os ydych yn dymuno gwneud cais am le addysg rhan-amser mewn lleoliad nas cynhelir, gwnewch gais yn uniongyrchol i'r lleoliad. 

 

Lleoedd Meithrin Rhan-amser mewn Ysgol Gynradd
Cliciwch yma i chwilio am ysgolion sydd â darpariaeth feithrin.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am le addysg rhan-amser mewn ysgol 3-11 oed, bydd angen ichi wneud cais ar-lein. Gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Bydd angen i rieni wneud cais ar wahân am le amser llawn mewn ysgol gynradd. Ni fydd dyraniad na phresenoldeb mewn lle rhan-amser yn yr ysgol neu leoliad nas cynhelir gerllaw yn cael ei ystyried wrth ddyrannu lleoedd amser llawn mewn ysgol. 

Bydd angen ichi wneud cais erbyn y dyddiad cau am le rhan-amser mewn ysgol gynradd – gweler pryd i wneud cais.

 

Darpariaeth

Dyddiad geni (Plant a anwyd rhwng)

Dechrau Ysgol

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais

Dyddiad Llythyron Cynnig Llefydd

Dyddiadau Cau am Apeliadau

Addysg feithrin i blant 3 oed (Rhan-amser)

1 Medi 2021 - 31 Awst 2022

Ionawr, Ebrill, Medi 2025

31 Gorffennaf 2024

Hydref 2024

Dim hawl i apelio

Addysg feithrin i blant 3 oed (Rhan-amser)

1 Medi 2022 - 31 Awst 2023

Ionawr, Ebrill, Medi 2026

31 Gorffennaf 2025

Hydref 2025

Dim hawl i apelio

Os ydych wedi colli'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais, gallwch wneud cais hwyr o hyd, ond bydd ceisiadau ar ôl y dyddiad cyflwyno llythyron cynnig llefydd yn cael eu prosesu bob mis. Gall gwneud cais yn hwyr effeithio ar eich siawns o gael lle.

 

Gwnewch gais ar-lein am le rhan-amser mewn ysgol neu gwnewch gais yn uniongyrchol i'r lleoliad nas cynhelir. 

*  Rhaid i unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant gytuno â’r cais hwn cyn ichi ei gyflwyno.
** Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, ni allwch wneud cais. Ewch i'ch ysgol leol a bydd y staff yn eich cynorthwyo â'ch cais ar-lein.

Ar ôl inni gael eich cais, byddwch yn cael cydnabyddiaeth o hynny drwy neges e-bost gyda rhif cyfeirnod unigryw ar gyfer eich cais a chopi .pdf o'ch cais. Anfonir yr holl ohebiaeth ynglŷn â'ch cais drwy e-bost. Os oedd eich cais ar amser, byddwch yn cael gwybod ym mis Hydref y flwyddyn flaenorol e.e. Mae'r tymor yn dechrau yn 2025 a byddwch yn cael gwybod ym mis Hydref 2024.

Os oedd eich cais yn hwyr mae gennych lai o siawns o gael lle ac ni allwn warantu y bydd eich plentyn yn cychwyn ar ddechrau’r tymor. Byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosib ond mae’r broses ymgeisio yn cymryd hyd at wyth wythnos.

Os cynigir lle ichi, rhaid ichi gadarnhau eich bod yn derbyn y lle erbyn y dyddiad a nodir yn y neges e-bost/llythyr. Os na wnewch chi hynny efallai y caiff y lle ei gymryd oddi arnoch. Unwaith yr ydych wedi derbyn lle eich plentyn, rhaid ichi gysylltu â’r ysgol i gytuno ar ddyddiad cychwyn.

Os gwrthodir lle meithrin i'ch plentyn ym mhob un o’r ysgolion rydych wedi’u dewis, nid oes hawl i apelio a bydd angen ichi ein hysbysu yn ysgrifenedig os ydych yn dymuno i enw eich plentyn gael ei gadw ar restr aros tan 30 Medi ac, os daw lle ar gael, byddwn yn rhoi gwybod ichi. Gallwch wneud cais hwyr am ysgolion eraill neu leoliadau nas cynhelir sy'n cynnig Addysg Blynyddoedd Cynnar. 

Gwneud cais am le rhan-amser mewn meithrinfa (3 oed)