Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Pentywyn Awyr Agored, Sir Gaerfyrddin SA33 4PF

  • activities
  • fideo
  • lluniau
  • Sut i ddod o hyd i ni

Padlo bwrdd ar eich traed

Mae gennym badlfwrdd gwynt 17 troedfedd o hyd a 5 troedfedd o led, sy’n gallu cario hyd at 8 oedolyn neu hyd at 12 plentyn. Mae’n berffaith ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm.

Dyma ddewis gwych arall yn lle syrffio a chorff-fyrddio nad ydynt ar gael bob amser os yw’r tonnau’n wael. Gall padlfwrdd mawr gael ei ddefnyddio ar y môr neu mewn llyn lleol ac rydym eisoes yn ei ddefnyddio ar gyfer canŵio agored a chaiacio.

Hefyd, mae gennym ddau fwrdd llai, sy’n 15 troedfedd ac sydd â digon o le i grŵp cyfan wneud y gweithgaredd, a byddant yn cael eu defnyddio ar gyfer cystadlaethau rhwng dau dîm.

Abseilio

Abseilio – Mae hyn yn cael ei ddiffinio fel 'rhediad rheoledig i lawr wyneb graig gan ddefnyddio rhaff'. Gelwir yr ail ffordd gyflymaf i lawr hefyd!

Yn Pentywyn Awyr Agored gallwn gyflwyno'r gweithgaredd hwn, sy'n meithrin cymeriad, yn amgylchedd rheoledig twr y Ganolfan dan oruchwyliaeth arbenigol ein hyfforddwyr cwbl gymwys.

Mae abseilio yn helpu i ddatblygu hyder, ac unwaith bydd y cyfranogwr yn dod i ymddiried yn y rhaff a'r hyfforddwr, bydd yn fuan yn anghofio am unrhyw ofn uchder; yn wir, y cleientiaid mwyaf nerfus yn aml yw'r rhai sydd yn cael y blas mwyaf arni!

Mae cyfle hefyd i wella eich sgiliau trwy symud ymlaen i glogwyni lleol traeth Pentywyn neu rywle pellach i ffwrdd. Rydym yn cynnal sesiynau abseilio yn ystod ein teithiau i Benrhyn Gwyr, a hyd yn oed i Eryri. Profiad gwych i rai o 6 i 90 oed!!

Saethyddiaeth

Mae'n debygol mai dyma ein gweithgaredd hynaf. Mae saethyddiaeth wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y byd, a dyma ein camp fwyaf cystadleuol, siŵr o fod. Allwch chi gael tair aur?

Mae ein holl sesiynau cyflwyno yn cael eu cynnal o dan do, mewn neuadd fawr yn y Ganolfan yn y lle cyntaf. Mae rhai o'n hyfforddwyr yn cynnal clwb lleol, Saethyddion Caerfyrddin, ac yn hyfforddi at lefel uchel iawn.

Rydym hefyd yn cael defnyddio eu sied fawr, y gellir gyrru ati'n hwylus. Yn ystod ein halldeithiau byddwn weithiau yn trefnu 'saethyddiaeth maes' lle caiff cleientiaid gyfle i saethu yn yr awyr agored, mewn mannau diarffordd yng nghefn gwlad, ac o dan oruchwyliaeth fanwl wrth gwrs!

Sgiliau byw yn y gwyllt

Mae gallu defnyddio coetir brodorol lleol 70 erw gyda thai crwn wedi agor llwybrau newydd i ni ym Mhentywyn. Yn ogystal â'n taith nant mae gennym gyrsiau Cyfeiriadu, cynnau tân, adeiladu cysgodfan a llawer o sgiliau eraill 'Ceidwad Coetir' i feithrin cymeriad. Rydym yn mynd â'r bobl ifanc allan ac yn eu hannog i wneud pethau y cânt eu hatal rhag eu gwneud gartref; ffordd sicr o lwyddo! Maen nhw hefyd yn dysgu am natur a pharch at yr amgylchedd naturiol, ac mae'r sesiynau hyn yn tueddu i fod ymhlith ein rhai mwyaf poblogaidd. Rydym hefyd yn ddiweddar wedi cwblhau ein 'ty crwn to glaswellt' ein hun, gyda lle i 50 o bobl eistedd o amgylch y pydew tân i ganu a mwynhau malws siocled!

Dringo

Mae gennym amrywiaeth o opsiynau dringo ym Mhentywyn yn dibynnu ar allu, profiad a'r tywydd. Mae tŵr dringo ar y safle yn gyflwyniad perffaith i'r gamp arbennig hon y gellir ei datblygu gan ddefnyddio ein wal clogfeini awyr agored.
  
Gallwn barhau i ddarparu hyfforddiant perfformiad yn ein hystafell clogfeini dan do a gallwn fynd â'r dringwyr gwell i glogwyni wrth ymyl y môr. Caiff y gweithgareddau dringo eu goruchwylio gan berson sydd â chymhwyster MIA.

Cerdded ceunentydd

Rydym yn cynnig gwahanol lefelau o gerdded Ceunentydd, yn dibynnu ar oedran a gallu'r grwp. Mae gennym daith nant i rai iau mewn coetir lleol eithriadol o hardd, yr 'Xtreme stream'. I grwpiau hyn gallwn deithio i gwm Nedd i leoliadau hardd megis ceunant Sychryd. Mae modd darparu cludiant, gan fod dau fws mini yn y Ganolfan.

Cwrs rhaffau uchel

Mae ein cwrs rhaffau uchel ar dir y Ganolfan ac yn darparu profiad cyffrous 'yn yr awyr'. Mae amrywiol elfennau fertigol i'w meistroli, yn cynnwys honglathau, pontydd crog ac ysgolion, a byddwch wedi'ch cynnal gan raff ddiogelwch ar hyd yr amser. Mae'r gweithgaredd hwn yn helpu i ddatblygu hyder oddi ar y ddaear o dan reolaeth fanwl ein hyfforddwyr.

Cerdded ar fryniau

Mae Pentywyn yn ffodus iawn ei fod o fewn cyrraedd hwylus i fryniau'r Preseli, Llwybr Arfordirol Penfro a Bannau Brycheiniog mewn bws mini. Mae gennym hefyd bum Arweinydd Mynydda cymwys ar ein staff, ac rydym yn rheolaidd yn trefnu alldeithiau penwythnos i fannau cyffrous megis Eryri. Rydym wedi arwain rhyw 1000 o bobl ifanc i gopa'r Wyddfa yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac wedi dysgu sgiliau gwersylla a chanfod llwybr iddynt ar yr un pryd.

Rhaffau isel

Bwriad y 'cwrs rhwystrau' lefel isel hwn yw datblygu sgiliau tîm unrhyw grŵp, p'un a ydynt yn grŵp o ddisgyblion ysgol, myfyrwyr, athrawon, cyfrifwyr neu swyddogion heddlu. Mae gwir bersonoliaeth pawb yn dod i'r amlwg yn y gweithgaredd hwn, a chaiff arweinwyr naturiol gyfle i ddisgleirio. Wrth wneud eu ffordd ar hyd yr honglathau a'r rhaffau, pont Burma, boncyff sy'n siglo a system o dwneli, rhoddir amrywiol bethau i'r grŵp eu cario ac mae tasgau i'w gwneud i sicrhau bod y cyfan mor ddiddorol â phosib.

Chwaraeon dŵr

Mae Pentywyn Awyr Agored yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau dwr. Gan mai dim ond 5 munud o gerdded yw hi i draeth hardd Pentywyn, rydym mewn lleoliad delfrydol i fynd â'n cleientiaid iau i syrff-sgïo a chorff-fyrddio. Gall ein hyfforddwyr gwybodus a phrofiadol hefyd arwain teithiau ar y môr, gyda chyfle i eistedd 'ar ben y cwch' wrth fynd o amgylch y pentir i Forfa Bychan a'r tu hwnt. Dim ond 10 munud i ffwrdd yw aber Taf mewn car, ac mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer teithiau mewn canwiau Canada, beth bynnag yw eich oed. Gallwch badlo i fyny'r aber o Lacharn i Sanclêr wrth i'r llanw ddod i mewn, aros am damaid o ginio i roi cyfle i'r llanw droi, ac yna padlo yn ôl i lawr.

Rydym hefyd yn arwain teithiau afon ar hyd gwahanol rannau o afonydd Teifi, Gwili ac eraill. Os hoffech gyfuno dringo a chwaraeon dwr, beth am roi cynnig ar ‘Arfordira’. Mae hyn yn sicr o roi profiad ‘llawn adrenalin’ i chi wrth i chi nofio o un cildraeth i'r nesaf, dringo'r clogwyni ar lan y môr, ac yna neidio o'r uchelderau gan wybod eich bod yng ngofal hyfforddwr cymwys, ac y byddwch yn glanio yn y dwr!

Teithiau ysgol

Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn yn arbenigo mewn pecynnau gweithgareddau preswyl i bobl ifanc. Yn draddodiadol mae grwpiau preswyl o ysgolion yn ymweld â Phentywyn ar gyfer pecyn pum diwrnod o weithgareddau cysylltiedig â'r cwricwlwm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, pryd y byddant yn dilyn rhaglen o weithgareddau awyr agored ac astudiaethau amgylcheddol. Mae aros am gyfnod byrrach ac ymweliadau dydd hefyd yn bosibl.

Arweinir y gweithgareddau gan staff y ganolfan, sydd â chyfoeth o brofiad a chymwysterau mewn gwahanol feysydd. Maent yn cynnwys athrawon Daearyddiaeth, Addysg Gorfforol a Gwyddoniaeth, a hyfforddwyr Mynydda, Dringo a Chanwio. Mae'r holl staff wedi cymhwyso hyd at yr isafswm gofynnol, o leiaf, ar gyfer Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol y Gweithgareddau Antur. Mae gan yr holl staff hefyd gymhwyster Cymorth Cyntaf. Wrth drefnu lle, anfonir pecyn at yr ysgolion yn cynnwys canllawiau ar gyfer yr ymweliad, gwybodaeth i rieni, a hefyd ffurflenni meddygol, gwybodaeth am ddiogelwch, rhestr o bethau angenrheidiol, ac ati.

Rydym yn annog athrawon o ysgolion newydd i ddod i weld y Ganolfan cyn cadw lle, ac rydym yn cynnig ymweld ag ysgolion newydd i roi cyflwyniad i rieni ac athrawon. Mae cyrsiau 3 a 4 diwrnod hefyd yn dod yn boblogaidd, yn enwedig ar ‘gyrion y tymor’, pryd y gall gostyngiadau fod ar gael.

Mae rhaglen nosweithiau a gynlluniwyd yn ofalus yn gwella'r profiad gyda gemau adeiladu Tîm, Cyfeiriannu Nos, Marshmallows o amgylch y tân agored yn y ty dderwen crwn, nofio a disgo. Mae'r Ganolfan hefyd yn darparu cyrsiau dydd y mae ysgolion weithiau yn eu defnyddio i roi 'rhagflas' i ddisgyblion iau. Gall y trefniadau gynnwys unrhyw weithgareddau a gynigir ar y cyrsiau preswyl.

Dros y 5 neu 6 mlynedd diwethaf,ydym bellach yn mynd â nifer o ysgolion ar deithiau diwrnod i Ben y Fan a bryniau'r Preseli, yn ogystal ag alldeithiau penwythnos i Eryri a'r Canolbarth. Rydym hefyd yn cynnig teithiau agored mewn canw i lawr afonydd Taf a Theifi, a byddwn yn ystyried paratoi unrhyw daith benodol gyda'n profiad a'n cymwysterau.

Gweithgareddau yn Pentywyn Awyr Agored

Mae Canolfan Awyr Agored Pentywyn mewn man delfrydol i gynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl o bob oedran a gallu. Pum munud yn unig sydd eu hangen i gerdded o'r Ganolfan i draeth hyfryd ac enwog Pentywyn sydd ar y ffin rhwng Llwybrau Arfordirol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Rydym wedi datblygu ystod eang o weithgareddau sy'n addas i bob oed a gallu a hynny yn dilyn nifer o flynyddoedd o ddarparu ar gyfer y farchnad gweithgareddau antur leol gan gydymffurfio â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a gwrando ar ein cleientiaid. Gellir cyfuno gweithgareddau addas fel rhan o becyn penodol er mwyn diwallu anghenion grwpiau ysgol, cybiaid a sgowtiaid, grwpiau ieuenctid, gwersylloedd Cristnogol, timau chwaraeon, diwrnodau HMS, a hyd yn oed rhywbeth gwahanol ar gyfer penblwyddi bechgyn neu ferched boed yn 10 neu'n 60 oed a hŷn.

Gall hyd at 100 o gleientiaid gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ein safle 4 erw yn unig yn ogystal â'r holl bethau cyffrous rydym yn eu cynnig yn yr ardal. Dyma restr o rai o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd sy'n gallu cael eu cynnwys yn eich pecyn penodol:

  • Padlo bwrdd ar eich traed
  • Abseilio
  • Saethyddiaeth
  • Sgiliau byw yn y gwyllt
  • Dringo
  • Cerdded ceunentydd
  • Cwrs rhaffau uchel
  • Cerdded ar fryniau
  • Rhaffau isel
  • Chwaraeon dŵr