Anghenion Dysgu Ychwanegol
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Rydym yma i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol drwy hyrwyddo cyflawniad a llesiant i bawb.
Mae'r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd yng Nghymru wedi newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno system fwy hyblyg ac ymatebol o ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau ac mae'n ymdrechu i ddarparu system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr Cymru. Mae’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd wedi’i chyflwyno’n raddol o fis Medi 2021.