Colled Clyw
Mae babanod yn cael eu sgrinio yn eu blwyddyn gyntaf am golled clyw. Mae pedair lefel i ddisgrifio colled clyw: ysgafn, cymedrol, difrifol a dwys. Os datgelir colled clyw yn gynnar, bydd Athrawon arbenigol Plant Byddar, ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio gyda'r plentyn a'i deulu/theulu i ddatblygu cyfathrebu. Byddant yn cysylltu â'r Adran Addysg fel y gallwn gynorthwyo'r plentyn cyn iddo/iddi ddechrau yn yr ysgol.
Gall plant byddar gyfathrebu mewn ffyrdd gwahanol. Efallai byddant yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a/neu'n darllen gwefusau. Efallai byddant yn defnyddio cymhorthion clyw digidol, mewnblaniadau yn y cochlea neu systemau sain eraill.
Gall llawer o blant golli eu clyw dros dro, a gall ddatblygu wrth iddynt fynd yn hŷn. Bydd 80% o blant yn cael cyfnod o glust ludiog erbyn 10 oed. Dyma achos mwyaf cyffredin byddardod dros dro.
Efallai bydd plant â cholled clyw sy'n dod i'r amlwg yn gwneud y canlynol:
- Peidio ag ymateb pan gânt eu galw
- Gwylio wynebau a gwefusau yn ofalus
- Gofyn am i bethau gael eu hailadrodd
- Anwybyddu cyfarwyddiadau, neu wneud pethau'n anghywir
- Gwylio beth mae plant eraill yn ei wneud cyn rhoi cynnig ar rywbeth
- Gofyn am gymorth yn aml
- Ymddangos fel pe baent yn synfyfyrio
- Siarad yn rhy uchel neu'n rhy dawel
- Peidio ag ymuno
- Bod yn flinedig, yn rhwystredig neu ar eu pennau eu hunain.
Bydd unrhyw golled clyw yn effeithio ar sgiliau gwrando, datblygiad iaith a sgiliau llythrennedd. Gall effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio, eu cof, eu sgiliau cymdeithasol a'u hunan-barch.
Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Gall athrawon helpu plant â cholled clyw mewn ystafelloedd dosbarth drwy wneud y canlynol:
- Sicrhau bod y plentyn yn wynebu'r athro/athrawes ac yn talu sylw, cyn siarad
- Siarad yn glir, yn naturiol ac ar gyflymder arferol
- Peidio â chuddio eu hwyneb pan maent yn siarad
- Peidio â cherdded o amgylch yr ystafell neu droi pan maent yn siarad
- Ailadrodd beth mae plant eraill yn ei ddweud
- Sicrhau mai un person sy'n siarad ar y tro
- Osgoi offer swnllyd fel argraffwyr neu daflunyddion
- Cadw lefelau sŵn yn isel, gan fod cymhorthion clyw yn chwyddo'r holl sŵn
- Defnyddio geiriau allweddol, penawdau pwnc neu gymhorthion gweledol i ddangos pan mae sgwrs newydd yn dechrau
Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch clyw neu olwg eu plentyn.
Mae gan yr Awdurdod Lleol nifer o Athrawon arbenigol Plant Byddar sydd ar gael i asesu a chefnogi addysg eich plentyn fel bo'r angen. Hefyd, mae ganddo ddarpariaeth arbenigol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a all fod yn addas i blant â'r golled clyw fwyaf sylweddol. Gweler Darpariaeth Arbenigol.
Rheolwr y Gwasanaeth Namau Synhwyraidd: Sallie Durbridge 01267 246406
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:
Addysg ac Ysgolion
Covid-19 - Cwestiynau Cyffredin Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Asesiad Statudol o Anghenion Addysgol
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaethau arbenigol
- Y gallu i ddysgu
- Darllen ac ysgrifennu
- Rhif neu fathemateg
- Sgiliau echddygol
- Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
- Anawsterau Dysgu Difrifol
- Colled Clyw
- Nam ar y golwg
- Problemau corfforol a/neu feddygol
- Awtistiaeth
- Saesneg/Cymraeg fel ail iaith
- Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
- Canolbwyntio
- Sipsiwn a theithwyr
- Partneriaeth â Rhieni
- Llais y plentyn / person ifanc
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
- Gwobr Dug Caeredin
- Coleg i ddisgyblion blwyddyn 11
- Heb fod mewn addysg na chyflogaeth?
- Cynnydd
- Cam Nesa
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion