Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Os ydych yn ystyried addysgu'ch plentyn gartref, bydd angen ichi ddarparu addysg addas. Dylai'r arddull dysgu fod yn:

  • Eang: Dylai'r addysg gyflwyno amrywiaeth eang o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i'r plant.
  • Cytbwys: Dylid dyrannu amser digonol i bob Maes Dysgu.
  • Perthnasol: Dylid addysgu pynciau o ran profiadau personol y disgybl a'i fywyd fel oedolyn a dylid bod yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol.
  • Gwahaniaethol: Cyd-fynd â galluoedd a dawn y plentyn.

Mae cwricwlwm da yn cynnwys addysg bersonol a chymdeithasol, addysg iechyd, addysg awyr agored ac amgylcheddol, dinasyddiaeth, gyrfaoedd, technoleg bwyd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Mae cyfleoedd i gymysgu a chysylltu â phlant eraill ac oedolion hefyd yn bwysig i ddatblygiad personol a chymdeithasol plentyn.

Mae gennych yr hawl i addysgu eich plentyn yn y cartref ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion Adran 7 Deddf Addysg 1996, sy'n rhoi dyletswydd ar rieni pob plentyn o oedran ysgol gorfodol i dderbyn addysg amser llawn effeithlon sy'n addas ar gyfer eu hoedran, eu gallu a'u dawn, ac ar gyfer unrhyw anghenion addysgol arbennig a allai fod ganddynt, naill ai drwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall.

Gellir dehongli'r ymadrodd "amser llawn" yn wahanol, gan fod addysg plentyn gartref yn aml yn cael ei lunio ar sail unigol. Dylech ystyried yr angen i unrhyw berson ifanc feddu ar gymwysterau ffurfiol ar gyfer unrhyw rôl yn y dyfodol.

Mae'r gyfraith yn mynnu bod plentyn yn cael addysg o ddechrau'r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bum oed tan y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol y mae'n 16 oed.

Os ydych yn dymuno addysgu yn y cartref, chi fydd yn gyfrifol am ariannu addysg eich plentyn, ac ymhlith y costau bydd cost unrhyw arholiadau cyhoeddus.

Rydym yn parchu'r hawl i addysgu eich plentyn yn y cartref ac yn anelu at ddarparu gwybodaeth ac arweiniad i rieni sy'n ystyried neu sydd wedi penderfynu addysgu eu plant yn y cartref.  

Dylech roi gwybod i Bennaeth yr ysgol lle mae eich plentyn wedi'i gofrestru. Yna dylai'r Pennaeth roi gwybod i'r Awdurdod Lleol.

Caiff enw llawn a chyfeiriad y plentyn eu hanfon at yr Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref gan yr ysgol o fewn 10 niwrnod ysgol o ddyddiad tynnu enw'r plentyn oddi ar y gofrestr.  Bydd yr Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref yn anfon llythyr o gydnabyddiaeth at y rhiant sy'n cadarnhau bod enw'r plentyn wedi'i dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol o dan Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010, a bydd yn trefnu ymweliad i drafod y ddarpariaeth Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Os nad yw eich plentyn erioed wedi mynychu'r ysgol, argymhellir yn gryf eich bod yn rhoi gwybod inni oherwydd gallech gael cefnogaeth, ffoniwch ni ar 01554 742197 neu 01554 742373.

Os na fyddwch yn anfon eich plentyn i'r ysgol ac os na fyddwch yn rhoi gwybod i'r ysgol, mae'n bosibl y cewch eich erlyn o dan adran 444 (1) (1A) o Ddeddf Addysg 1996 a gallai'r plentyn hefyd gael ei ystyried fel Plentyn ar Goll o Addysg (CME).

Mae gennym Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref a fydd yn cynnig cyfarfod â chi fel y gallwch drafod sut rydych yn bwriadu addysgu'ch plentyn, ac yn ogystal cynigir cymorth a gwybodaeth.

Dylai'r cyfarfod cychwynnol gyda'r Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref gael ei gynnal cyn pen pedair wythnosol ysgol wedi ichi benderfynu darparu addysg yn y cartref. Byddwn yn cyfarfod â chi i drafod ein rôl wrth fonitro addysg eich plentyn. Gorau oll bod eich plentyn yn dod i'r cyfarfod er mwyn inni gael gwell dealltwriaeth o'i ddymuniad a'i farn ynghylch beth sy'n bwysig iddo/iddi.

Rydym eisiau gweithio gyda'r holl rieni sy'n dewis addysgu eu plant yn y cartref, er nad oes rheidrwydd cyfreithiol arnom i ddarparu unrhyw adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Ein nod yw:

  • darparu cyngor a chefnogaeth ynghylch materion cwricwlwm
  • darparu gwybodaeth am sefydliadau sy'n cefnogi addysgwyr cartref
  • darparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaeth Gyrfa Cymru
  • darparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaethau cymorth

Gwneir pob ymdrech i ddatrys materion am y ddarpariaeth drwy broses o gynnal trafodaeth barhaus. Os bydd y trafodaethau yn aflwyddiannus, efallai bydd angen inni gyflwyno hysbysiad i rieni. O dan Adran 437(1) Deddf Addysg 1996, gallwn ymyrryd os oes gennym reswm teilwng dros gredu nad yw rhieni yn darparu addysg addas drwy gyflwyno Gorchymyn Mynychu'r Ysgol.

I ddechrau, byddwn yn cyflwyno hysbysiad a bydd hyn yn caniatáu cyfnod o 15 diwrnod o leiaf i rieni ddarparu gwybodaeth bellach inni ynghylch a yw'r addysg yn addas. Gall y rhiant ddewis gwneud hyn trwy gwrdd â'r Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref naill ai gartref neu mewn lleoliad y cytunwyd arno.

Os oes gan eich plentyn Anghenion Addysgol Arbennig, mae gennych yr un hawl i'w haddysgu yn y cartref, ond mae'n rhaid ichi wneud darpariaeth addas ar gyfer eu hanghenion arbennig.

Lle bo gan blant ddatganiad, gall y ddarpariaeth hon fod yn wahanol i'r hyn a amlinellir yn y datganiad a fyddai'n berthnasol mewn ysgol.

Os yw trefniadau'r rhieni'n addas, ni fydd dyletswydd arnom i drefnu'r ddarpariaeth a nodwyd yn y datganiad mwyach. Fodd bynnag, os nad yw trefniadau'r rhieni'n diwallu anghenion y plentyn, ac os nad yw'r rhieni'n gwneud trefniadau addas mae ddyletswydd arnom i drefnu'r ddarpariaeth a nodwyd yn y datganiad. Ymgynghorir â Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Awdurdod Lleol ynghylch y materion hyn sy'n cael eu haddysgu.

Os oes gan blentyn ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig a'i fod yn cael ei addysgu yn y cartref, nid yw'r datganiad yn dod i ben yn awtomatig.  Wrth gynnal y datganiad mae'n rhaid ei adolygu'n flynyddol.

Yn achos plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, yn ol Adran 324 (4A) Deddf Addysg 1996, nid oes angen darparu enw ysgol yn Rhan 4 y datganiad. Bydd yna drafodaeth rhwng yr awdurdod a'r rhieni ac yn hytrach nag enwi'r ysgol, dylai Rhan 4 y datganiad nodi'r math o ysgol rydym yn ystyried ei bod yn briodol, ond dylid hefyd nodi: 'gwnaed trefniadau gan y rhieni o dan Adran 7 Deddf Addysg 1996'.

O dan Adran 175(1) Deddf Addysg 2002 mae dyletswydd ar yr Awdurdod Addysg Lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.

Mae'r adran hon yn nodi: 'Bydd awdurdod addysg lleol yn gwneud trefniadau i sicrhau bod y swyddogaethau a roddwyd iddo yn ei rôl fel awdurdod addysg lleol yn cael eu harfer gyda'r bwriad o ddiogelu a hyrwyddo lles plant.'

Mae Deddf Plant 2004 ('Deddf 2004') yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer datblygu gwasanaethau plant. Mae Adran 10 Deddf 2004 yn nodi fframwaith statudol ar gyfer trefniadau cydweithredol i'w dilyn gan awdurdodau lleol gyda'r bwriad o wella lles plant yn eu hardal.

Nid yw penderfyniad rhiant i addysgu yn y cartref yn sail ynddo'i hun i bryderu am les y plentyn. Fodd bynnag, yn yr un modd â phlant sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol, efallai bydd materion lles plant yn codi mewn perthynas â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Os daw materion lles plant i'r golwg wrth weithio gyda phlant a theuluoedd, rhaid rhoi gwybod am y pryderon hyn syth a gweithredu'n briodol.

Os hoffech anfon eich plentyn i ysgol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cais ar-lein am le mewn ysgol. Os hoffech gyngor a chymorth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Lles Addysg drwy e-bost educationwelfare@sirgar.gov.uk  neu ffoniwch  01554 742369.

Gwneud cais am le mewn ysgol

Er mwyn ein helpu i gynnal cofnodion cywir, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn rhoi gwybod i'r Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref am unrhyw newid cyfeiriad, felly a fyddech cystal â ffonio ni ar 01554 742197 neu 01554 742373.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu rhywfaint o arian grant i awdurdodau lleol i'w ddefnyddio ar ystod benodol o feysydd i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r costau ychwanegol y bydd teulu sy'n addysgu gartref yn eu hwynebu wrth ddarparu adnoddau a chyfleoedd sydd fel arfer ar gael am ddim yn yr ysgol.
Mae'r meysydd a nodwyd yn cynnwys:

  • TGAU neu gymwysterau eraill
  • cyrsiau Cymraeg i'r teulu;
  • adnoddau dysgu megis gwerslyfrau a deunyddiau;
  • tripiau addysgol;
  • meddalwedd dysgu; a
  • chyfleusterau i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau grŵp.

Yn Sir Gaerfyrddin, defnyddiwyd rhan o'r cyllid hwn i ariannu nifer o fentrau gan gynnwys:

  • Yr Ardd Fotaneg: tocynnau teulu a mynediad i weithdai gwyddoniaeth ar gyfer plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref.
  • Rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer pobl ifanc
  • Gwersi Cymraeg i bobl ifanc

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch EHEenquiries@sirgar.gov.uk, neu cysylltwch ag un o aelodau ein tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref:

  • Becky Thomas - 07976 466399
  • Ceri Bevan- 07813393783
  • Su Crowther- 07813393782

Gwenud cais am gyllid grant

Addysg ac Ysgolion