Cludiant Ysgol
Diweddarwyd y dudalen ar: 06/02/2025
Efallai y bydd eich plant yn gallu cael cludiant am ddim i'r ysgol, yn dibynnu ar ba mor bell y maent yn byw o’r ysgol ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddynt.
I fod yn gymwys i gael cludiant am ddim, rhaid i ymgeiswyr fodloni POB UN o’r meini prawf canlynol:
- bod o leiaf 5 mhlwydd oed
- byw yn Sir Gaerfyrddin
- mynd i'r ysgol ddynodedig neu agosaf
- byw o leiaf 2 filltir o'r ysgol os yw yn yr ysgol gynradd neu 3 milltir o'r ysgol os yw yn yr ysgol uwchradd
O dan rhai amgylchiadau gellir darparu cludiant hefyd ar gyfer disgyblion nad ydynt fel arfer yn gymwys o dan y polisi cyffredinol yn seiliedig ar:
- Diogelwch ar y Ffyrdd,
- Cyflwr meddygol.
- Dysgwyr ag anawsterau dysgu/anableddau
- Newid preswylfa yn ystod y blynyddoedd TGAU
- Credoau crefyddol
Caiff rhieni sydd wedi cyflwyno cais am gludiant am ddim ac wedi cael eu gwrthod, yn cael yn cael gwybod am y broses adolygiad o'r penderfyniad fel rhan o'r hysbysiad ysgrifenedig o wrthod.
Caiff disgyblion eu hannog i wneud eu ffordd eu hunain i'r ysgol, ac i gerdded neu feicio'n ddiogel i'r ysgol lle bo hynny'n bosibl.
Cyfrifoldeb rhieni yw trefnu fordd addas ir disgyblion i fynd i'r ysgol os nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim.
Darllenwch ein polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol a pholisi seddau gwag yn ofalus cyn cychwyn eich cais.
Cwestiynau Cyffredin Cludiant Ysgol
Fydd ein cwestiynau cyffredin yn helpu ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am chludiant ysgol.
Mae amserlen ar gael i'w gweld ar ein gwefan. Pan fyddwch wedi derbyn eich cerdyn teithio, gwnewch yn siŵr bod y manylion stopio a nodir yn gywir, gan y bydd gyrwyr bysiau a thacsis dim ond yn gallu casglu a gollwng disgyblion o'r lleoliadau a nodir ar y cerdyn teithio, ac yn y mannau a nodir ar yr amserlenni.
Mae angen i ddisgyblion sy'n cychwyn mewn ysgol newydd ail-ymgeisio ar frys.
Mae angen i fyfyrwyr coleg wneud cais am gludiant trwy eu coleg - nid trwy'r cyngor.
Oes, mae'n bwysig bod teuluoedd sydd wedi newid cyfeiriad i ail-ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Anfonwch e-bost i trafnidiaethgyhoeddus@sirgar.gov.uk gan nodi enw'r disgybl, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion llawn y gwall.
Anfonwch e-bost i trafnidiaethgyhoeddus@sirgar.gov.uk gan nodi enw'r disgybl, dyddiad geni, cyfeiriad a chadarnhau eich bod yn dychwelyd i'r chweched dosbarth.
Mae angen i ddisgyblion sy'n cychwyn mewn ysgol newydd ail-ymgeisio ar frys hefyd.
Os nad yw rhieni'n bwriadu defnyddio'r cludiant am ddim i'r ysgol ar gyfer eu plentyn dylent gysylltu â TeithioDysgwyr@sirgar.gov.uk gan ddarparu enw, dyddiad geni ac ysgol y plentyn.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi