Addysg Sir Gâr 2022-2032
Cyflwyniad
Ar ran Cyngor Sir Gâr, rwy'n falch o gyflwyno'r cynllun hwn sy’n amlinellu bwriad Gwasanaethau Addysg Sir Gaerfyrddin.
Er bod llywodraeth leol yn wynebu cyfnod ansicr mae'r Cyngor yn parhau i ddarparu cannoedd o wasanaethau o ddydd i ddydd i drigolion Sir Gaerfyrddin. Oherwydd cynllunio gofalus ac arweinyddiaeth gadarn rwy'n credu'n gryf ein bod mewn sefyllfa ardderchog i ddatblygu ymhellach a sicrhau ffyniant y Sir i’r dyfodol.
Fel Cabinet, rydym wedi nodi nifer o brosiectau a rhaglenni allweddol y byddwn yn ymdrechu i'w cyflawni. Drwy gyflwyno'r prosiectau a'r rhaglenni hyn, credwn y gallwn gyfrannu at sicrhau mai Sir Gaerfyrddin yw'r lle gorau i fyw, gweithio ac ymweld â hi.
Mae ein cynllun uchelgeisiol yn ceisio gwella lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y Sir yn barhaus a, thrwy wneud hyn, byddwn yn sicrhau bod ein trigolion, ein cymunedau, ein sefydliadau a'n busnesau yn cael eu cefnogi a'u galluogi i ddatblygu a ffynnu er budd ein sir. Lle bo'n briodol, ac er budd Sir Gaerfyrddin, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid perthnasol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Datblygwyd ein strategaeth gorfforaethol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n ymgorffori'r blaenoriaethau allweddol o fewn y cynllun hwn. Edrychaf ymlaen at sylweddoli'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn.
Mae system addysg gref yn un o gonglfeini cymunedau bywiog a chydlynus ac economi a chymdeithas ffyniannus. Mae ein system addysg wedi bod yn ymateb i'r holl newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan ffocysu ar:
- Broffesiwn addysg a gwasanaethau plant o ansawdd uchel
- Arweinwyr ysbrydoledig yn gweithio ar y cyd i godi safonau
- Ysgolion a gwasanaethau cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a lles, a
- Drefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn sy'n cefnogi system hunan wella
Mae dros 27,000 o ddisgyblion wedi cofrestru yn ysgolion Sir Gâr. Mae gan y Cyngor rôl hanfodol i ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf i blant, pobl ifanc, teuluoedd a dysgwyr yn y ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion penodol yn y ffordd orau. Byddwn yn gweithio i gyflawni'r pedwar diben fel y bydd ein holl blant a phobl ifanc yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
- Gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn mewn bywyd a gwaith.
- Ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd.
- Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Rydym am gefnogi ein pobl ifanc i gyflawni eu potensial dysgu a byddwn yn ymdrechu'n barhaus i gynnig safonau uchel o addysg gyfun, yn gynyddol mewn amgylcheddau modern sydd wedi'u harfogi'n llawn ar gyfer dysgu'r 21ain ganrif.
Rydym hefyd am alluogi ein disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Byddwn yn gweithio i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed drwy weithio gyda'r teulu cyfan i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau.
Cyng. Glynog Davies, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros Addysg a Phlant
Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
Mae angen i ni adeiladu ar yr arfer dda sydd eisoes yn bodoli er mwyn darparu'r un cyfle i bob dysgwr a chanlyniadau rhagorol cyson.
Mae'r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y rôl y mae gwasanaethau addysg a phlant yn ei chwarae wrth ddatblygu cymunedau bywiog ac economi ffyniannus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.
Bydd hefyd yn:
- Rhoi trosolwg o'n meddwl strategol dros y 10 mlynedd nesaf.
- Dwyn ynghyd ein gweledigaeth ar y cyd, datganiadau cenhadaeth a blaenoriaethau.
- Rhoi arweiniad cyson yn ystod cyfnod o newid.
- Rhoi cipolwg ar yr edau euraidd o bolisi rhyngwladol, cenedlaethol a chorfforaethol.
- Yn gweithredu fel crynodeb lefel uchel sy'n cyd-destunoli ein prosesau a'n dogfennaeth Cynllunio Busnes.
Caiff y strategaeth lefel uchel hon ei gweithredu drwy ein cynlluniau adrannol ac is-adrannol a bydd hefyd yn amlwg yng Nghynlluniau Datblygu Ysgolion.
Gweledigaeth ar gyfer 2032
Byddwn yn gweithio i gefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn hapus, yn ddiogel, yn ffynnu ac yn cyflawni eu potensial personol, cymdeithasol a dysgu. Byddwn yn ymdrechu i fod y gorau y gallwn fod a chael ein parchu'n lleol, tra'n ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.
Ein Pwrpas Moesol Cyfunol
Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei werthfawrogi a'i werthfawrogi'n gyfartal.
Ein Gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn ategu ac yn arwain ein ffordd o weithio, ein ffordd o wella a'n ffordd o wneud penderfyniadau yn ein cymuned.
- Gweithio fel un tîm
- Rydym yn cydnabod y gallwn wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ar gyfer ein cymunedau drwy gydweithio a chreu cysylltiadau adeiladol
- Canolbwyntio ar ein dysgwyr
- Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yn ein cymunedau a dyma ein pwyslais a'n prif ddiben
- Gwrando er mwyn gwella
- Byddwn yn ymgysylltu â'n cymunedau, ein partneriaid a'n holl randdeiliaid ac yn gwrando arnynt i lywio ein cynlluniau gwella
- Anelu at ragoriaeth
- Byddwn yn wyliadwrus ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni hyd eithaf ein gallu a'n bod bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella'r hyn a wnawn
- Gweithredu ag uniondeb
- Byddwn yn meddwl am yr hyn sy'n iawn i'w wneud wrth ystyried y dewisiadau mewn sefyllfa waith
- Cymryd cyfrifoldeb personol
- Byddwn ni i gyd yn ystyried sut yr ydym yn cefnogi'r gwerthoedd hyn a'u rhoi ar waith er mwyn iddynt ategu ac arwain ein ffordd o weithio.
Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
Yn Sir Gaerfyrddin ymdrechwn i ddarparu'r profiad addysg gorau posibl i'n dysgwyr. Ymdrechwn i ddatblygu'r plentyn/person ifanc cyfan gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer y cam nesaf yn eu llwybr dysgu neu yrfa.
Yr ydym yn ceisio cyflawni hyn ar adeg pan fo mwy o alwadau ar ein hadnoddau a mwy o bwyslais ar wella canlyniadau a chyrhaeddiad. Yn y pen draw, rydym am sicrhau bod ein dysgwyr yn cael eu haddysgu'n dda, yn wybodus ac yn gymwys.
Fel adran, mae gennym flaenoriaethau clir sy'n canolbwyntio ar bedair thema allweddol, wedi'u clymu i Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol. Byddwn yn cyflawni ein canlyniadau dymunol drwy wireddu ein 'darnau diben' a delfrydau cwricwlwm newydd Cymru.
Dysgwyr Sir Gâr….
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau.
- Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
- Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.
Darnau diben
- Byddwn yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gan wella eu profiadau bywyd cynnar a sicrhau eu bod yn byw bywydau iach. Byddwn yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ac yn gweithio i sicrhau eu lles emosiynol a chorfforol.
- Byddwn yn cefnogi pob dysgwr wrth i ni adeiladu ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu ac yn gwella eu cynnydd a chyflawniad. Byddwn yn sicrhau canlyniadau priodol i BOB dysgwr a PHOB aelod o staff o fewn y system.
- Byddwn yn sicrhau bod gan ein plant a'n pobl ifanc y sgiliau cywir i lwyddo ac i gyflawni eu huchelgeisiau. Byddwn yn datblygu sgiliau dysgwyr ymhellach gan gynnwys creadigrwydd, arloesedd, entrepreneuriaeth, annibyniaeth, gwydnwch a dyfalbarhad.
- Byddwn yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc drwy fynd i'r afael â bylchau o ran cyfleoedd a chyflawniad.
- Byddwn yn sicrhau bod pob person ifanc mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant a'u bod yn dilyn llwybrau dysgu a gyrfa cynhyrchiol.
- Byddwn yn datblygu cwricwlwm diddorol a phwrpasol a fydd yn cefnogi dysgwyr i wireddu eu potensial gan sicrhau eu bod yn cael eu 'Haddysgu'n Dda, yn Wybodus ac yn ennill Cymwysterau addas' sy’n eu galluogi i ddod yn ddinasyddion byd-eang effeithiol.
- Byddwn yn datblygu 'cwricwlwm lleol' sy'n adlewyrchu hanes, daeryddiaeth a diwylliant unigryw Sir Gâr.
- Byddwn yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn ymfalchïo yn nhreftadaeth a diwylliant unigryw Sir Gaerfyrddin.
- Byddwn yn sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o a pharch at amrywiaeth a chydraddoldeb.
- Byddwn yn diogelu ac yn adfer yr amgylchedd ac yn newid ein ffyrdd o fyw er mwyn diogelu'r amgylchedd yn awr ac ar gyfer y dyfodol gan sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn datblygu gwerthfawrogiad o'u cymuned a'u hamgylchedd.
- Byddwn yn gwerthfawrogi cyflawniad ein dysgwyr ac yn dathlu eu llwyddiant.
- Byddwn yn gweithio fel UN TȊM er lles ein plant, pobl ifanc a theuluoedd
- Byddwn yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc drwy recriwtio, datblygu, cadw a gwerthfawrogi'r arweinwyr, athrawon a staff cymorth gorau. Byddwn yn parchu ac yn cydnabod ein holl staff ac yn ymrwymo i sicrhau eu lles.
- Byddwn yn sicrhau bod llais y dysgwr yn ganolog i'n penderfyniadau a bod Hawliau'r Plentyn yn cael eu hyrwyddo a'u cyflawni.
- Byddwn yn cynnig safonau uchel o addysg ddwyieithog, yn gynyddol mewn amgylcheddau modern sydd â'r adnoddau llawn ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif gan ddefnyddio technoleg i gefnogi addysgu a dysgu a gwella gwasanaethau.
- Byddwn yn datblygu fel sefydliad sy'n dysgu er budd ein plant, ein pobl ifanc a'n staff.
- Byddwn yn cynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith o gynllunio a monitro ein gwasanaethau.
- Byddwn yn datblygu ac yn cryfhau gweithio mewn partneriaeth ymhellach gydag adrannau ac asiantaethau eraill.
- Byddwn yn adnabod ein gwasanaethau'n dda a sicrhau newid a gwelliant cadarnhaol parhaus
- Bydd ein gwasanaethau, boed yn cael eu darparu'n uniongyrchol neu wedi'u comisiynu gan eraill, yn deg, yn gynhwysol, yn anelu at ragoriaeth ac yn cynnig gwerth da am arian.
Cyswllt â'r amcanion llesiant
Bydd ein Blaenoriaethau Strategol yn helpu i fynd i'r afael ag Amcanion Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin a ymgorfforir yn Strategaeth Gorfforaethol 2018-2023 sef:
- Dechrau gorau mewn bywyd - Helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a gwella ei brofiadau yn gynnar mewn bywyd
- Helpu plant i ddilyn ffordd iach o fyw - Bydd ffordd iach o fyw yn helpu plant I gyflawni eu potensial a chwrdd â dyheadau addysgol.
- Cefnogi a gwella cynnydd a chyflawniad i bawb - Cefnogi a gwella cynnydd, cyflawniad a chanlyniadau I bob dysgwr.
- Trechu tlodi - Trechu tlodi drwy wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal, gan helpu pobl i gael gwaith a gwella bywydau'r rheiny sy'n byw mewn tlodi
- Amgylchedd - Ymagwedd ledled y Cyngor tuag at gefnogi Heneiddio’n Dda yn Sir Gaerfyrddin.
- Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru - Hyrwyddo'r bywiogrwydd yr iaith Gymraeg ynghyd â chyfoeth diwylliant a hanes Cymru yn Sir Gaerfyrddin.
Cefndir polisi
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw'r datganiad mwyaf cyflawn o hawliau plant a gynhyrchwyd erioed. Er bod angen edrych ar bob erthygl gyda'i gilydd oherwydd eu rhyngddibyniaeth a'u gwerth cyfartal, mae erthyglau 3, 12, 13, 14, 19 28, 29 a 31 yn arbennig o berthnasol yn y cyd-destun presennol hwn.
- Casgliad o 17 o nodau byd-eang a osodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015 yw’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae Nod 4, 'sicrhau addysg gynhwysol ac o safon i bawb a hyrwyddo dysgu gydol oes' wedi'i ymddiried i UNESCO, fel asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer addysg. Mae UNESCO yn arwain ac yn cydlynu agenda Addysg 2030. Mae'r Fframwaith Addysg 2030 yn darparu canllawiau ar gyfer gweithredu'r nod a'r ymrwymiadau uchelgeisiol hyn. Bwriad y cyhoeddiad 'Canllaw ar gyfer sicrhau cynhwysiant a thegwch mewn addysg 2017' yw cefnogi llunwyr polisi addysg i wreiddio cynhwysiant a thegwch mewn polisi addysgol. Mae'r canllaw yn helpu i: adolygu pa mor dda y mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn bodoli ar hyn o bryd mewn polisïau cyfredol ac yn gymorth i helpu i nodi pa gamau sydd eu hangen i wella a datblygu polisïau. Mae'r canllaw hwn yn llywio syniadaeth yn y maes hwn o bolisi sy'n esblygu.
- Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, 2018-2023 Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: mae'r strategaeth hon yn nodi'r cyfeiriad ar gyfer yr awdurdod lleol dros y pum mlynedd nesaf, gan ymgorffori ein hamcanion gwella a llesiant fel y’u diffinnir gan ddeddfwriaeth. Mae hefyd yn cynnwys prosiectau a rhaglenni allweddol y Cabinet am y pum mlynedd nesaf, sef set o bron i gant o brosiectau blaenoriaeth a gyhoeddwyd gan yr arweinydd y Cyng. Emlyn Dole yn ei gynllun 'Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin'. Mae'r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y dyfodol mewn 15 amcan newydd o dan bedair thema allweddol - i gefnogi preswylwyr i ddechrau'n dda, i fyw'n dda ac i heneiddio'n dda mewn amgylchedd iach, diogel a llewyrchus.
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol (2015) wedi cael ei chroesawu gan Sir Gaerfyrddin fel dogfen strategol drosfwaol bwysig, wrth gyflawni ei dyletswyddau lles. Mae amcanion lles Cyngor Sir Caerfyrddin yn mapio ein cynnydd tuag at bob un o'r saith nod lles. Yn adrannol, rydym yn cyfrannu at nifer o'r amcanion lles ac yn cymryd yr awenau mewn nifer, e.e. fel y disgrifir yn y gydran 'dechrau'n dda ' o strategaeth gorfforaethol newydd Cyngor Sir Gâr 2018-2023 (Mehefin 2018). Er enghraifft, mae'r adran addysg a phlant yn arwain ar Amcan Lles 4: lleihau nifer yr oedolion ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
- Addysg yng Nghymru: cenhadaeth ein cenedl (cynllun gweithredu 2017-21): dyma gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod gan bob person ifanc yng Nghymru gyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf drwy'r cwricwlwm trawsnewidiol newydd sy'n cael ei ddatblygu'n genedlaethol ar hyn o bryd. Cynigir pedwar amcan galluogi allweddol i greu cwricwlwm trawsnewidiol. Mae'r galluogwyr hyn yn cael eu trwytho yn ein gwaith adrannol.
- Mae Adroddiad dyfodol llwyddiannus yr Athro Graham Donaldson (2015) yn darparu'r bensaernïaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru. Mae gwireddu'r fenter hon yn rhan annatod o'r daith ddiwygio y mae Cymru wedi dechrau arni a chyfeirir ati'n gryf yn y genhadaeth genedlaethol ac yng ngwaith yr adran.
- Mae Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin i 2020 yn gosod y sylfeini lleol ar gyfer y ddelfryd hon. Yng nghyd-destun tegwch, mae'r CSyGMA yn dadlau y dylai pob dysgwr ym mhob lleoliad dysgu, gael budd o'r cyfle i ddod yn rhugl ac yn gyfartal ddwyieithog. Ystyrir bod hyn yn gynhwysol i bob dysgwr yn y modd yr ydym yn anelu y gall pawb fanteisio o fod yn ddwyieithrwydd hyderus.
- Diben Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin yw manylu ar sut rydym yn anelu at gyflawni canlyniadau a thargedau Llywodraeth Cymru fel y'u hamlinellir yn eu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (SACC). Mae'r SACC yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg a hyfforddiant sy'n ymateb mewn ffordd wedi'i chynllunio i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw hwyluso cynnydd yn nifer y bobl o bob oedran sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg gyda'u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Mae CSyGMA Sir Gaerfyrddin yn gyfrwng allweddol ar gyfer creu gwell system gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
- Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i rym ar 6ed o Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:
- Llais a rheolaeth: rhoi'r unigolyn a'i anghenion, wrth wraidd ei ofal, a rhoi llais iddo, a rheolaeth dros gyrraedd y canlyniadau sy'n ei helpu i gyflawni llesiant.
- Atal ac ymyrryd yn gynnar: cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned er mwyn lleihau'r angen critigol cynyddol.
- Lles: cefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth.
- Cyd-gynhyrchu: annog unigolion i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.