Addysg Sir Gâr 2022-2032

Cyflwyniad

Ar ran Cyngor Sir Gâr, rwy'n falch o gyflwyno'r cynllun hwn sy’n amlinellu bwriad Gwasanaethau Addysg Sir Gaerfyrddin.

Er bod llywodraeth leol yn wynebu cyfnod ansicr mae'r Cyngor yn parhau i ddarparu cannoedd o wasanaethau o ddydd i ddydd i drigolion Sir Gaerfyrddin. Oherwydd cynllunio gofalus ac arweinyddiaeth gadarn rwy'n credu'n gryf ein bod mewn sefyllfa ardderchog i ddatblygu ymhellach a sicrhau ffyniant y Sir i’r dyfodol.

Fel Cabinet, rydym wedi nodi nifer o brosiectau a rhaglenni allweddol y byddwn yn ymdrechu i'w cyflawni. Drwy gyflwyno'r prosiectau a'r rhaglenni hyn, credwn y gallwn gyfrannu at sicrhau mai Sir Gaerfyrddin yw'r lle gorau i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Mae ein cynllun uchelgeisiol yn ceisio gwella lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y Sir yn barhaus a, thrwy wneud hyn, byddwn yn sicrhau bod ein trigolion, ein cymunedau, ein sefydliadau a'n busnesau yn cael eu cefnogi a'u galluogi i ddatblygu a ffynnu er budd ein sir. Lle bo'n briodol, ac er budd Sir Gaerfyrddin, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid perthnasol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Datblygwyd ein strategaeth gorfforaethol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n ymgorffori'r blaenoriaethau allweddol o fewn y cynllun hwn. Edrychaf ymlaen at sylweddoli'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn.

Mae system addysg gref yn un o gonglfeini cymunedau bywiog a chydlynus ac economi a chymdeithas ffyniannus. Mae ein system addysg wedi bod yn ymateb i'r holl newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan ffocysu ar:

  • Broffesiwn addysg a gwasanaethau plant o ansawdd uchel
  • Arweinwyr ysbrydoledig yn gweithio ar y cyd i godi safonau
  • Ysgolion a gwasanaethau cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a lles, a
  • Drefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn sy'n cefnogi system hunan wella

Mae dros 27,000 o ddisgyblion wedi cofrestru yn ysgolion Sir Gâr. Mae gan y Cyngor rôl hanfodol i ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf i blant, pobl ifanc, teuluoedd a dysgwyr yn y ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion penodol yn y ffordd orau. Byddwn yn  gweithio i gyflawni'r pedwar diben fel y bydd ein holl blant a phobl ifanc yn:

  • Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
  • Gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn mewn bywyd a gwaith.
  • Ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd.
  • Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Rydym am gefnogi ein pobl ifanc i gyflawni eu potensial dysgu a byddwn yn ymdrechu'n barhaus i gynnig safonau uchel o addysg gyfun, yn gynyddol mewn amgylcheddau modern sydd wedi'u harfogi'n llawn ar gyfer dysgu'r 21ain ganrif.

Rydym hefyd am alluogi ein disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Byddwn yn gweithio i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed drwy weithio gyda'r teulu cyfan i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau.

 

Cyng. Glynog Davies, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros Addysg a Phlant