Addysg Sir Gâr 2022-2032

Pam mae angen y strategaeth hon arnom?

Mae angen i ni adeiladu ar yr arfer dda sydd eisoes yn bodoli er mwyn darparu'r un cyfle i bob dysgwr a chanlyniadau rhagorol cyson.

Mae'r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y rôl y mae gwasanaethau addysg a phlant yn ei chwarae wrth ddatblygu cymunedau bywiog ac economi ffyniannus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

Bydd hefyd yn:

  • Rhoi trosolwg o'n meddwl strategol dros y 10 mlynedd nesaf.
  • Dwyn ynghyd ein gweledigaeth ar y cyd, datganiadau cenhadaeth a blaenoriaethau.
  • Rhoi arweiniad cyson yn ystod cyfnod o newid.
  • Rhoi cipolwg ar yr edau euraidd o bolisi rhyngwladol, cenedlaethol a chorfforaethol.
  • Yn gweithredu fel crynodeb lefel uchel sy'n cyd-destunoli ein prosesau a'n dogfennaeth Cynllunio Busnes.

Caiff y strategaeth lefel uchel hon ei gweithredu drwy ein cynlluniau adrannol ac is-adrannol a bydd hefyd yn amlwg yng Nghynlluniau Datblygu Ysgolion.