Llywodraethwyr ysgol
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2024
Mae llywodraethwyr yn gweithio fel tîm. Maent yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn darparu addysg o ansawdd da i bob disgybl.
Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy'n cynnwys aelodau o'r gymuned leol, rhieni, athrawon, staff a chynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol. Mae cyrff llywodraethu Ysgolion Eglwysig (Gwirfoddol a Gynorthwyir neu'n Ysgolion Gwirfoddol a Reolir) hefyd yn cael eu cynrychioli gan awdurdod yr eglwys.
Pan ddaw lleoedd gwag ar gyfer rhiant-lywodraethwyr, dosberthir gwybodaeth trwy law'r disgyblion ac er mwyn bod yn gymwys i gael eich enwebu yn rhiant-lywodraethwr, mae'n rhaid ichi fod â phlentyn ar gofrestr yr ysgol y mae'r Corff Llywodraethu'n gyfrifol amdani. Pedair blynedd yw cyfnod swydd llywodraethwyr ac os ydych yn rhiant-lywodraethwr gallwch ddewis gwasanaethu am y cyfnod cyfan hyd yn oed os nad yw eich plentyn bellach yn ddisgybl yn yr ysgol honno.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gyrff Llywodraethu gwrdd o leiaf unwaith y tymor, ond gallant gwrdd yn amlach er mwyn trafod materion penodol. Mae'n ofynnol i bob llywodraethwr ymgymryd â hyfforddiant gorfodol.
Mae gan bob ysgol ei chorff llywodraethu sy'n gyfrifol am reolaeth gyffredinol yr ysgol. Mae union faint y corff llywodraethu yn dibynnu ar faint yr ysgol; mae'r aelodaeth yn cael ei phennu yn ôl y gyfraith, ac mae pob corff yn cynnwys gwahanol fathau o lywodraethwyr. Gallant gynnwys rhai neu'r cwbl o'r canlynol:
- Rhiant-lywodraethwyr - sy'n cael eu hethol gan rieni plant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i lywodraethwyr o'r fath fod â phlentyn yn yr ysgol adeg yr etholiad.
- Athro-lywodraethwr - aelodau o staff addysgu'r ysgol, sy'n cael eu hethol gan athrawon.
- Staff-lywodraethwyr - aelodau o'r staff nad ydynt yn addysgu, sy'n cael eu hethol gan y staff nad ydynt yn addysgu.
- Llywodraethwyr ar ran yr Awdurdod Lleol – a benodir gan yr Awdurdod Lleol. Fel rheol, mae'r llywodraethwyr hyn yn meddu ar sgìl benodol a defnyddiol neu'n cael eu hadnabod am eu gwaith cymunedol a'u diddordeb mewn addysg.
- Pennaeth – gall ddewis bod yn llywodraethwr neu ddewis aros yn annibynnol. Pa un bynnag a ddewisa, mae gan bennaeth yr ysgol yr hawl i fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd y corff llywodraethu.
- Llywodraethwyr Cymunedol – mae'r rhain yn cael eu penodi gan y corff llywodraethu, a gall y llywodraethwyr hyn feddu ar sgiliau penodol neu berthyn i grŵp penodol mewn cymdeithas megis y gymuned fusnes. Mae llywodraethwr cymunedol ychwanegol sy'n cynrychioli'r cyngor cymuned yn cael ei gynnwys/chynnwys yng nghyrff llywodraethu ysgolion cynradd.
- Llywodraethwyr Sefydledig – ceir llywodraethwyr sefydledig ar gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir. Maent yn sicrhau bod yr ysgol yn cadw ei chymeriad crefyddol arbennig neu ei bod yn cael ei chynnal yn unol â thelerau gweithred ymddiriedolaeth.
- Disgybl-Lywodraethwyr Cyswllt – eu henwebu gan y Cyngor Ysgol o blith ei aelodau o Flynyddoedd 11, 12 neu 13 mewn ysgolion uwchradd.
Nid oes angen unrhyw cymwysterau ffurfiol i fynd yn llywodraethwr ysgol. Yr un peth sy'n hanfodol yw diddordeb mewn addysg plant ac ymrwymiad i hynny. Mae'n rhaid i lywodraethwyr fod dros 18 oed.
Er nad oes angen cymwysterau arnoch i fod yn llywodraethwr, mae'r canlynol yn bwysig:
- ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu yn rheolaidd ac unrhyw bwyllgorau y cewch eich penodi iddynt
- awydd i godi safonau addysg o fewn yr ysgol
- parodrwydd i rannu sgiliau ac arbenigedd er budd y corff llywodraethu a'r ysgol
Mae llywodraethwyr yn bobl gyffredin, o sawl rhan o gymdeithas. Mae angen iddynt allu neilltuo amser i ddod i adnabod yr ysgol yn dda a bod yn egnïol ac ar gael yn eu cefnogaeth iddi. Mae cael synnwyr cyffredin ac awydd i wasanaethu'r gymuned hefyd yn bwysig.
Fel arfer, ni chaiff unrhyw un fod yn llywodraethwr mwy na dau gorff llywodraethu.
Drwy wneud un neu'r cwbl o'r canlynol:
- Llenwi ffurflen gais
- Cysylltu â'r ysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi, ei Phennaeth neu Gadeirydd y Llywodraethwyr.
- Cysylltu â'ch Cynghorydd Sir lleol.
- Cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr: llywodraethu@sirgar.gov.uk
- Cynradd: 3–11 oed.
- Uwchradd: 11–16 oed neu 11–18 oed.
- Arbennig: Ysgolion i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig.
- Gwirfoddol: Mae rhai ysgolion wedi cael eu sefydlu gan yr Eglwys neu ymddiriedolaeth addysg a gelwir y rhain yn Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir neu'n Ysgolion Gwirfoddol a Reolir ac fel rheol, ond nid bob amser, maent yn gysylltiedig â'r Eglwys yng Nghymru neu â'r Eglwys Gatholig Rufeinig.
Hyfforddiant Sefydlu
Mae'n rhaid i lywodraethwyr newydd eu penodi neu eu hethol, ag eithrio penaethiaid, i fynychu'r hyfforddiant hwn o fewn blwyddyn o'u penodiad neu etholiad.
Mae hyfforddiant sefydlu i lywodraethwyr yn hanfodol os ydynt i ddeall eu rôl a pharamedrau eu cyfrifoldebau.
Bydd yr hyfforddiant sefydlu yn helpu i sicrhau bod llywodraethwyr newydd yn:
- Meddu ar y wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i ddechrau cyflawni eu rôl yn effeithiol fel llywodraethwr ac i gefnogi eu hysgol wrth godi safonau;
- Ymwybodol o faterion addysg cenedlaethol a lleol a'u heffaith ar gyrff llywodraethu;
- Cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant a'r angen i ddatblygu eu sgiliau a manteisio ar gyfleoedd eraill sydd ar gael iddynt;
- Datblygu hyder i'w galluogi i gymryd rhan lawn a gweithredol yn rôl y corff llywodraethol.
Bydd yr hyfforddiant hefyd yn adlewyrchu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer llywodraethu ysgolion yng Nghymru, a bydd yn canolbwyntio ar yr hyn y dylid ei ddisgwyl gan lywodraethwyr wrth fodloni gofynion y gyfraith a chodi safonau a gwella ysgolion. Bydd hefyd yn egluro rôl strategol llywodraethwr a sut mae hyn yn cefnogi ac yn herio gwaith yr ysgol a'r uwch dîm arweinyddiaeth; eu rôl wrth osod polisïau a thargedau a sut y dylai'r rhain gael eu monitro a'u gwerthuso a sut ac i bwy y mae llywodraethwyr yn atebol.
Mae Llywodraethwyr nad ydynt yn mynychu'r hyfforddiant hwn o fewn y cyfnod penodedig yn cael eu hatal yn awtomatig. Os nad yw'r llywodraethwyr yn cwblhau'r hyfforddiant o fewn cyfnod ataliad o chwe mis, maent yn cael eu gwahardd yn awtomatig rhag parhau yn y swydd fel llywodraethwr.
Deall Data
Dylai llywodraethwyr ddeall:
Rhaid i lywodraethwyr ddeall bod gan gyrff llywodraethu rôl i'w chwarae o ran gwella ac atebolrwydd. Fel rhan o’r broses hunanwerthuso a gwella, drwy ddeall data a gwybodaeth arall am eu hysgol, dylent gytuno ar nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol i’w cyflawni drwy gynllun gwella’r ysgol. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys cryfderau'r ysgol, meysydd i'w datblygu a'u blaenoriaethau gwella.
Dylai llywodraethwyr ddeall:
- bod defnyddio data'n ddeallus yn rhan annatod o hunanwerthuso, ac fe ddylai hyn ymestyn ymhellach ym mhob ysgol na data perfformiad dysgwyr neu ysgol yn unig i gynnwys yr ystod lawn o ddata ansoddol a meintiol sydd ar gael. Rhaid ystyried yr ystod ehangaf o ddata er mwyn llywio a chefnogi taith wella barhaus ysgol ym mhob agwedd ar ei gweithrediad
- bod y system ysgolion yng Nghymru yn gyfoethog o ran data, gan ymestyn ar lefel leol ymhell y tu hwnt i unrhyw ddata cyson yn genedlaethol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i bob ysgol. Unwaith y caiff ei ddadansoddi'n briodol, bydd yn darparu gwybodaeth y dylid ei defnyddio yn effeithiol ar eu taith i wella.
Hyfforddiant i Gadeiryddion Newydd
Mae'n rhaid i Gadeiryddion newydd fynychu'r hyfforddiant hwn o fewn chwe mis o'u penodiad fel Cadeirydd.
Bydd unrhyw Gadeirydd Llywodraethwyr nad yw'n mynychu'r Hyfforddiant i Gadeiryddion o fewn chwe mis o'i benodiad yn gorfod gorffen dal swydd fel Cadeirydd ar unwaith. Os yw'r llywodraethwr hynny'n dymuno sefyll eto i gael ei ethol fel Cadeirydd Llywodraethwyr bydd yn ofynnol iddo gwblhau'r hyfforddiant Cadeirydd cyn y bydd yn gymwys i gael ei ethol yn Gadeirydd.
Bydd yr Hyfforddiant gorfodol ar gyfer Cadeiryddion yn adlewyrchu'r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer llywodraethwyr ysgolion yng Nghymru a bydd yn diffinio'n glir yr hyn a ddisgwylir gan Gadeirydd y llywodraethwyr, gan gynnwys darparu arwain trafodaethau corff llywodraethol ar eu rôl strategol a'u rôl o ran codi perfformiad ysgolion; a gweithredu fel ffrind beirniadol.
Yn benodol, bydd yr hyfforddiant yn:
- Darparu Cadeiryddion â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyflawni eu rôl yn effeithiol i gefnogi gwella ysgolion, codi safonau perfformiad; sicrhau lles disgyblion a gwella ansawdd yr addysg a ddarperir;
- Datblygu a gwella eu dealltwriaeth o rôl Cadeirydd effeithiol wrth arwain y corff llywodraethu;
- Gwella eu hyder a sgiliau arweinyddiaeth a'u gallu i ddatblygu perthynas effeithiol gyda'r pennaeth gan eu galluogi i gynnig her a chymorth i'r ysgol;
- Eu darparu nhw ag ymwybyddiaeth o faterion addysgol cenedlaethol a lleol a'u heffaith ar gyrff llywodraethu, a'u helpu i gydnabod pwysigrwydd hyfforddiant a'r angen i ddatblygu eu sgiliau ac anghenion y corff llywodraethu ehangach a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi eraill sydd ar gael iddynt.
Mae pobl sy'n anelu at fod yn Gadeiryddion llywodraethwyr neu is-gadeiryddion llywodraethwyr yn gallu cwblhau hyfforddiant Cadeirydd gorfodol os ydynt yn dymuno. Os yw'r llywodraethwyr hyn yn dod yn Gadeiryddion o fewn dwy flynedd o fynychu'r hyfforddiant, ni fydd yn ofynnol iddynt fynychu'r hyfforddiant eto.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi
Mae ein hymddygiad yn eiffeithio ar bawb a phopeth
Herio
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion