Prydau Ysgol am Ddim
Gallech fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydych chi'n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen warant y Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Treth Plant ac nid yw eich incwm blynyddol yn fwy na £16,190
- Ategiad Credyd Treth Gwaith – wedi’i dalu 4 wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol ac nid yw incwm net blynyddol eich aelwyd yn fwy na £7,400 (£616.67 y mis)
- Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith yn ogystal ag unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, ni fyddwch yn gymwys, hyd yn oed os yw incwm yr aelwyd yn is na £16,190.
Os ydych eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim ac angen rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau e.e., newid cyfeiriad, ysgol, newid hawl i fudd-daliadau neu blentyn ychwanegol yn mynychu'r ysgol, mae angen i chi roi gwybod i ni am eich 'Newid mewn Amgylchiadau'.
Os ydych eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim ond nad oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau, NID oes angen i chi wneud cais eto.
GWNEUD CAIS AM BRYDAU YSGOL AM DDIM A RHOI GWYBOD I NI AM NEWID YN EICH AMGYLCHIADAU
Cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd yn raddol
Mae prydau ysgol am ddim nawr ar gael i bob disgybl oed cynradd. Nid yw'r cynnig hwn yn dibynnu ar incwm eich cartref nac a ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, mae pob disgybl yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn ystod y tymor.
Os nad yw eich plentyn/plant yn cael prydau ysgol ar hyn o bryd ac yr hoffent ddechrau cael prydau ysgol, gofynnwn i chi gysylltu â'ch ysgol ar unwaith os oes ganddynt unrhyw ofynion deietegol arbennig.
Cofiwch NAD YW disgyblion rhan-amser na'r rhai mewn lleoliadau gofal plant (hyd yn oed os yw'r lleoliad mewn ysgol e.e., Cylch Meithrin) yn gymwys.