Menter Brecwast am ddim
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Ar hyn o bryd mae gan 96 o ysgolion cynradd ledled y sir glwb brecwast am ddim, a thestun balchder inni yw bod y niferoedd sy'n defnyddio'r clybiau brecwast hyn ymysg y mwyaf yng Nghymru.
Mae brecwast wedi hen gael ei gydnabod yn bryd pwysicaf y dydd, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng brecwast iach a gwell iechyd, gwell canolbwyntio, a gwell ymddygiad yn ein hysgolion.
Mae'n hollbwysig ein bod yn bwyta brecwast gan nad ydym ar ein gorau hebddo. Mae brecwast yn helpu i roi hwb i'r corff ac yn rhoi tanwydd i'r ymennydd ar ôl bod yn cysgu am oriau. Gan ein bod yn defnyddio egni yn ystod y nos mae angen gofalu ein bod yn cael tanwydd newydd cyn gynted â phosibl ar ôl dihuno yn y bore er mwyn cychwyn y diwrnod yn y modd gorau posibl.
Mae'r rhan fwyaf o'r clybiau brecwast yn agor am 8.15am. Gall disgyblion ddewis amryw o ddewisiadau i frecwast, er enghraifft:
- Dewis o rawnfwyd plaen heb gaenen o siwgr
- Tost
- Sudd ffrwythau neu laeth i'w yfed
(Sylwer y gallai ein bwydlen frecwast amrywio rhywfaint o bryd i'w gilydd)
Yn ogystal â chynnig brecwast iach mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trefnu cystadlaethau a brecwastau ar thema arbennig gydol y flwyddyn, ynghyd ag annog y disgyblion i gymdeithasu yn ystod y sesiwn. Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim fel bod pawb yn cael cyfle i fod ar eu gorau ar ddechrau'r diwrnod ysgol!
Llaeth ysgol am ddim
Mae cynlluniau cymhorthdal llaeth ysgol yn annog plant i ddatblygu arfer gydol oes o yfed llaeth ac o yfed/fwyta cynhyrchion llaeth. Mae'r Awdurdod yn cynorthwyo ysgolion ledled y Sir i hawlio llaeth am ddim ar gyfer y categorïau oedran canlynol:
- Dosbarthiadau meithrin (plant o dan 5 oed) sy'n mynd i'r ysgol am fwy na dwy awr y dydd;
- Hefyd yng Nghymru, mae plant sy'n derbyn addysg Cyfnod Allweddol 1 yn gymwys i gael llaeth am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi