Dysgu oedolion a gweithgareddau cymunedol
Rydym yn cynnal cyrsiau i oedolion mewn lleoliadau cymunedol a rhai ar-lein hefyd. Rydym yn cynnal ystod o gyrsiau - Sgiliau Hanfodol, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), gan gynnwys cymwysterau megis Saesneg a Mathemateg TGAU, ynghyd â gweithgareddau ar gyfer diddordeb, iechyd a llesiant.
Gall dysgu gyda ni eich helpu chi i ennill sgiliau i gael swydd neu ragolygon gyrfa gwell, meithrin gwybodaeth a magu hyder.
Ein nod yw darparu cyrsiau dwyieithog pan fo'n bosibl. Pan fyddwch yn gwneud ymholiad ynglŷn â chymryd rhan mewn cwrs, byddwn yn gofyn i chi a fyddai'n well gennych astudio drwy gyfwng y Gymraeg. Byddwn yn cynnal cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg pan fydd y nifer angenrheidiol wedi mynegi diddordeb.