Sgiliau Hanfodol mewn Saesneg a Mathemateg

Os hoffech wella'ch sgiliau Mathemateg neu Saesneg, mae ein rhaglen sgiliau hanfodol yn berffaith ar eich cyfer. Gallwch ddewis astudio rhaglen sgiliau hanfodol mewn Mathemateg, Saesneg neu'r ddwy.

Mae ein rhaglenni'n addas i ddechreuwyr hyd at Lefel 2 a byddant yn caniatáu ichi gamu ymlaen i astudio TGAU mewn Saesneg neu Fathemateg. Mae'r sesiynau ar gael yn ystod y dydd a'r nos a gallwch astudio wrth eich pwysau eich hun, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar. Gellir achredu dosbarthiadau drwy City & Guilds, Agored Cymru neu CBAC: TGAU Saesneg Iaith / TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg.

Bydd y rhaglen hon yn datblygu eich sgiliau i:

  • Helpu eich plant gyda gwaith cartref.
  • Meithrin hyder yn y gwaith.
  • Ennill sgiliau ar gyfer cyflogaeth.
  • Ennill cymhwyster i'ch helpu i gamu ymlaen

i addysg bellach neu addysg uwch.
Os ydych yn ddysgwr newydd neu os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01267 235413, anfonwch e-bost neu llenwch ein Ffurflen Ymholiad.

Ffurflen Ymholiad

Dyddiadau Tymor 2026/27 Dechrau Hanner Tymor Diwedd
Hydref 2026 07 Medi 26 Hydref - 30 Hydref 18 Rhagfyr
Gwanwyn 2027 04 Ionawr 08 Chwefror - 12 Chwefror 19 Mawrth
Haf 2027 05 Ebrill 31 Mai - 04 Mehefin 20 Gorffennaf

Sylwer y gallai'r calendr hwn newid.

Darperir y cwrs hwn mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr.

Mae dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol am ddim drwy gyllid Llywodraeth Cymru os ydych yn bodloni'r meini prawf.  Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu £200 fesul tymor.



Cysylltwch â ni ar gyfer Cymhwyso Rhif, Sgiliau Hanfodol Cymru a Sgiliau Cyfathrebu Lefel 1 a Lefel 2, i gael mynediad i gyrsiau addysg uwch eraill.