Sgiliau Llythrennedd Digidol

Heb ddefnyddio cyfrifiadur neu lechen o'r blaen?

Bydd ein sesiynau sgiliau llythrennedd digidol yn eich paratoi ar gyfer y byd digidol gartref, yn y gwaith ac wrth astudio. Dewch i wybod sut y mae defnyddio dyfais neu wella'r sgiliau yr ydych eisoes yn eu meddu: llechen, ffôn, gliniadur, Chromebook; archwilio a magu hyder gan ddefnyddio meddalwedd, apiau ac ar-lein: siopa, chwilio am swydd, y cyfryngau cymdeithasol, defnyddio gwasanaethau ar-lein - gan gynnwys cadw'n ddiogel ar-lein.

Os ydych yn ddysgwr newydd neu os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01267 235413, anfonwch e-bost neu llenwch ein Ffurflen Ymholiad.

Ffurflen Ymholiad

 

Dyddiadau Tymor 2026/27 Dechrau Hanner Tymor Diwedd
Hydref 2026 07 Medi 26 Hydref - 30 Hydref 18 Rhagfyr
Gwanwyn 2027 04 Ionawr 08 Chwefror - 12 Chwefror 19 Mawrth
Haf 2027 05 Ebrill 31 Mai - 04 Mehefin 20 Gorffennaf

Sylwer y gallai'r calendr hwn newid.