Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd eraill (ESOL)
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/07/2026
Mae yna ddosbarthiadau i'ch helpu os oes gennych rywfaint o Saesneg neu ddim o gwbl, a dosbarthiadau i'ch helpu os ydych am wella'ch Saesneg i astudio.
- Dechreuwyr (cyn-mynediad a Mynediad 1) os ydych yn meddu ar rywfaint o Saesneg neu ddim o gwbl.
- Mynediad 2/3 - os ydych yn meddu ar rywfaint o Saesneg ac yn awyddus i ddysgu mwy.
- Mynediad 3/Lefel 1 - gwella eich sgiliau Saesneg Iaith.
Os ydych yn ddysgwr newydd neu os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01267 235413, anfonwch e-bost neu llenwch ein Ffurflen Ymholiad.
Gellir cynnal dosbarthiadau yn ystod y dydd a gyda'r nos, ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.
| Dyddiadau Tymor 2026/27 | Dechrau | Hanner Tymor | Diwedd |
|---|---|---|---|
| Hydref 2026 | 07 Medi | 26 Hydref - 30 Hydref | 18 Rhagfyr |
| Gwanwyn 2027 | 04 Ionawr | 08 Chwefror - 12 Chwefror | 19 Mawrth |
| Haf 2027 | 05 Ebrill | 31 Mai - 04 Mehefin | 20 Gorffennaf |
Mae dosbarthiadau ESOL am ddim drwy gyllid Llywodraeth Cymru os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu £200 fesul tymor.
Darperir rhai cyrsiau mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr.



