Nam ar y golwg
Yng Nghymru, mae gan tua 0.2% o'r boblogaeth ysgolion nam sylweddol ar eu golwg. Nam ar y golwg yw pan na ellir cywiro golwg yn llawn drwy wisgo sbectol/lensys.
Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu y gall fod gan gymaint â 10% o ddysgwyr wall plygiannol heb ei ddatgelu – sy'n golygu bod eu gallu i ddysgu a chyfranogi'n weithredol mewn gwersi yn cael ei amharu am nad ydynt wedi gweld optometrydd nac yn gwisgo sbectol. Felly, gall dysgu hyd at 3 phlentyn ym mhob dosbarth gael ei effeithio gan olwg wannach heb ei datgelu.
Dyma arwyddion o nam ar y golwg ymhlith plant:
- Peidio â thalu sylw a chanolbwyntio.
- Synfyfyrio'n aml.
- Llawysgrifen wael.
- Lletchwithdod.
- Diffyg cyswllt llygaid.
- Colli eu lle pan maent yn darllen.
- Anawsterau o ran rhoi digon o le i blant eraill.
- Blino'n gyflym.
- Angen mwy o amser na phlant eraill i gwblhau tasgau.
- Yn ei chael yn anodd darllen print mân.
- Yn ei chael yn anodd darllen o'r bwrdd gwyn.
- Cwyno'n aml am ben tost.
- Rhwbio eu llygaid yn aml.
- Yn ei chael yn anodd copïo.
- Dibynnu'n ormodol ar gymorth gan gyfoedion i gwblhau tasgau/symud o amgylch.
- Yn ei chael yn anodd dehongli darluniau/lluniau os nad yw'r cyferbyniad yn dda.
Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Gall athrawon helpu plant â cholled golwg mewn ystafelloedd dosbarth drwy wneud y canlynol:
- Sicrhau mannau dysgu ysgogol a deunyddiau cwricwlwm hawdd eu defnyddio
- Cynnal asesiadau risg mewn perthynas â mannau dysgu er mwyn sicrhau diogelwch dysgwyr â nam ar eu golwg
- Sicrhau bod print clir ar ddeunydd darllen (Arial, maint ffont 14) a'i fod ar bapur A4, a hynny'n ddarpariaeth leiaf (bydd angen print mwy ar rai plant)
- Gwahaniaethu – gan gynnwys offer a thechnegau dysgu amgen
- Goleuadau/bleinds priodol i ddiwallu anghenion plant unigol
- Sicrhau amgylchedd dirwystr, lle mae offer yn cael ei storio mewn mannau hawdd eu cyrraedd
- Newid ac addasu deunyddiau addysgol
- Meddwl am leoedd eistedd
- Cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch anghenion dysgwyr unigol
Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch clyw neu olwg eu plentyn.
Mae gan yr Awdurdod Lleol Athrawon Cymwys Plant â Nam ar eu Golwg a gwasanaeth arbenigol sy'n ymwneud â Symudedd/Mynd o le i le, sydd ar gael i asesu a chefnogi anghenion eich plentyn fel bo'r angen. Gweler Darpariaeth Arbenigol.
Rheolwr y Gwasanaeth Namau Synhwyraidd: Sallie Durbridge 01267 246406
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:
Addysg ac Ysgolion
Covid-19 - Cwestiynau Cyffredin Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Asesiad Statudol o Anghenion Addysgol
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaethau arbenigol
- Y gallu i ddysgu
- Darllen ac ysgrifennu
- Rhif neu fathemateg
- Sgiliau echddygol
- Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
- Anawsterau Dysgu Difrifol
- Colled Clyw
- Nam ar y golwg
- Problemau corfforol a/neu feddygol
- Awtistiaeth
- Saesneg/Cymraeg fel ail iaith
- Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
- Canolbwyntio
- Sipsiwn a theithwyr
- Partneriaeth â Rhieni
- Llais y plentyn / person ifanc
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
- Gwobr Dug Caeredin
- Coleg i ddisgyblion blwyddyn 11
- Heb fod mewn addysg na chyflogaeth?
- Cynnydd
- Cam Nesa
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion