Cefnogaeth a chyngor

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Cymraeg i Blant

Cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Mudiad Meithrin, yw Cymraeg i Blant. Prif nod y cynllun yw cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i rieni, darpar rieni a’u teuluoedd ar fuddion addysg/gofal Cymraeg a chyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i’w plant. Yn Sir Gâr mae gwaith ‘Cymraeg i Blant’, o ddydd i ddydd, yn canolbwyntio ar gynnig; Grwpiau cyn-geni (cynllun peilot yn cydweithio gyda bydwragedd/ysbytai'r Sir, Grwpiau Tylino (10 wythnos +), Grwpiau Ioga Babi (10 wythnos +) a Grwpiau Stori a Chân (0-3 oed). Mae’r grwpiau hyn yn addas i ddysgwyr, rhieni di-Gymraeg a siaradwyr Cymraeg. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â grwpiau lleol cysylltwch â Cymraeg i Blant ar 01970 639639 neu ar Facebook.

CYMRAEG I BLANT AR FACEBOOK.


Mudiad Meithrin

Mudiad Meithrin yw prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol. Y nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cylchoedd Ti a Fi yn cynnig gweithgareddau sy'n helpu datblygiad plant o enedigaeth ac mae’r Cylchoedd Meithrin yn darparu addysg a hyrwyddo datblygiad plant 2 flwydd oed hyd at oed ysgol. I ddarganfod eich Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin lleol, ewch i'r wefan neu ffoniwch 01970 639639.

EWICH I WEFAN MUDIAD MEITHRIN


Urdd

Mae’r Urdd yn un o fudiadau ieuenctid mwya Ewrop ac mae’n cynnig cyfleoedd a gweithgareddau amrywiol i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan yr Urdd, sy’n fudiad cyffrous a deinamig, dros 6,000 o aelodau yn Sir Gaerfyrddin rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Maent yn cynnig cyfleoedd diwylliannol a hamdden drwy’r ysgol, mewn clybiau cymunedol ac yn ystod y gwyliau, ac mae’r Urdd yn darparu ystod eang o gystadlaethau chwaraeon hefyd. I gysylltu gyda’r Urdd yn Sir Gaerfyrddin ffoniwch 01267 676 751 neu ewch i wefan Urdd Sir Gâr.

EWCH I WEFAN YR URDD


Ffermwyr Ifanc

Mae’r Ffermwyr ifanc yn fudiad ieuenctid sy’n darparu cyfleoedd i 800 o aelodau rhwng 10 a 26 oed sy’n byw yn Sir Gâr. Mae 23 o Glybiau yn Sir Gâr sy’n cael eu rhedeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’r mudiad yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau arbennig i’r aelodau wrth iddynt ddatblygu sgiliau newydd, ennill hyfforddiant, teithio’r byd, bod yn rhan annatod o’r gymuned a chael cyfle i wneud ffrindiau am oes. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch neu ffoniwch 01267 237693.

E-BOSTIWCH FFERMWYR IFANC


Cymraeg i Oedolion

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gorff newydd sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y maes Cymraeg i Oedolion. Gallwch gael gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg yn eich ardal leol o’r Ganolfan drwy gysylltu ar 0300 323 4324 neu swyddfa@dysgucymraeg.cymru.

Ewch i wefan Dysgu Cymraeg


Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n noddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir nifer helaeth o gyrsiau yn cynnig rhywfaint o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Mae hyn yn darparu cyfleoedd pellach i fyfyrwyr gael hyfforddiant i baratoi ar gyfer cyflogaeth ac ymateb i’r galw cynyddol am y gallu i weithio trwy gyfrwng dwy iaith yng Nghymru.

EWCH I WEFAN COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL


Mentrau Sir Gâr

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol, gwirfoddol a deinamig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae 3 Menter iaith yn Sir Gâr sef Menter Gorllewin Sir Gâr, Menter Bro Dinefwr a Menter Cwm Gwendraeth Elli. Mae’r Mentrau yn cynnal, hyrwyddo a chydlynu gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau ar draws y sir ar gyfer teuluoedd, plant a phobl ifanc, y gymuned a’r economi. Nod y 3 fenter ydy hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol yn Sir Gâr, gan sicrhau bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd holl drigolion y sir.

Addysg ac Ysgolion