Symud i'r Ysgol Uwchradd (11 oed)

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/11/2022

Yn 11 oed bydd eich plentyn yn symud i'r Ysgol Uwchradd. Mae'n rhaid i chi wneud cais i'r Ysgol Uwchradd o'ch dewis chi, nid oes trosglwyddiad awtomatig o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Pan fydd eich plentyn ym mlwyddyn olaf yr ysgol gynradd, byddwch yn derbyn hysbysiad yn ystod tymor yr Hydref gyda gwybodaeth am bob ysgol uwchradd yn y sir a sut i wneud cais.

Nid oes cysylltiad rhwng yr ysgolion Cynradd ac Uwchradd, gallwch wneud cais am le yn unrhyw ysgol Uwchradd yn y Sir. Mae'r cais yn seiliedig ar eich cyfeiriad cartref ac nid yr ysgol gynradd a fynychwyd. Efallai y bydd eich ysgol gynradd yn trefnu diwrnodau blasu yn yr ysgol Uwchradd leol, ond byddem yn argymell eich bod yn cysylltu ag unrhyw ysgol rydych yn gwneud cais iddi. Mae cyfle gan eich plant i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ac mae gan bob ysgol ei chategori iaith ei hun. Cyfeiriwch at y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni ar y dudalen 'Gwybodaeth a Chanllawiau i Rieni' i gael arweiniad ychwanegol.

Dod o hyd i ysgol uwchradd.

Os ydych yn ystyried anfon eich plentyn i Ysgol Gatholig y Sant Ioan Llwyd yn Llanelli, yn ogystal â gwneud cais drwy'r wefan hon, gofynnir i rieni lenwi ffurflen gais bapur yr ysgol hefyd.

Darpariaeth

Ganwyd rhwng

Dyddiad dechrau'r ysgol

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais

Dyddiad hysbysu

Addysg uwchradd

1 Medi 2011 i 31 Awst 2012

Medi 2023

20 Rhagfyr 2022

1 Mawrth 2023 - neu'r diwrnod gwaith nesaf

 

Os ydych wedi methu'r dyddiad cau, gallwch wneud cais hwyr o hyd, ond gall effeithio ar eich siawns o gael lle.

Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn a dim ond ar-lein y gallwch wneud cais. Bydd angen ichi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw a chyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad *
  • E-bost y rhiant/gwarcheidwad **
  • Enw’r plentyn, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni
  • Eich dewis ysgol – gallwch ddewis hyd at dair ysgol, mewn trefn blaenoriaeth

Rhaid i unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant gytuno â’r cais hwn cyn ichi ei gyflwyno.
** Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost ni allwch wneud cais ar-lein. Ewch i’ch ysgol leol a byddan nhw’n eich helpu gyda’ch cais.

Byddwch yn cael cydnabyddiaeth dros yr e-bost lle gallwch hefyd argraffu copi o’ch cais. Bydd unrhyw ohebiaeth am eich cais yn cael ei hanfon dros yr e-bost.

Os oedd eich cais o fewn y terfyn amser cewch eich hysbysu ar 1af Mawrth 2022. Os oedd eich cais yn hwyr mae gennych lai o siawns o gael lle. Byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosib ond mae’r broses ymgeisio yn cymryd hyd at wyth wythnos.

Os cynigir lle ichi rhaid ichi dderbyn neu gwrthod y lle a gynigiwyd erbyn y dyddiad nodir yn yr e-bost. Os na wnewch chi hynny efallai y caiff y lle ei gymryd oddi arnoch. Unwaith yr ydych wedi derbyn lle eich plentyn, RHAID ichi gysylltu â’r ysgol i gytuno ar ddyddiad cychwyn.

Dim ond os yw’r flwyddyn rydych yn gwneud cais amdani yn llawn y byddwn yn gwrthod lle mewn ysgol. Fodd bynnag, os gwrthodir lle i’ch plentyn yn unrhyw un o’r ysgolion uwchradd rydych wedi gwneud cais amdanynt, mae yna hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Mi fydd yn rhaid i chi hefyd ein hysbysu yn ysgrifenedig os ydych am i enw'ch plentyn gael ei gadw ar restr aros tan 30 Medi ac, os daw lle ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Gallwch wneud cais hwyr am ysgolion eraill.

Gwneud cais am ysgol uwchradd (11 oed)

Addysg ac Ysgolion