Dalgylchoedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024

Mae gan bob ysgol ddalgylch dynodedig y mae’n ei wasanaethu. Os ydych yn byw o fewn dalgylch dynodedig ysgol, mae gwell siawns y bydd eich cais i’r ysgol yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid oes gwarant o le.

Bydd gan blant sy’n byw yn nalgylch ysgol well siawns hefyd o fod yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol ac yn ôl adref.

Gallwch ddewis anfon eich plentyn i unrhyw ysgol yn y Sir ond efallai na lwyddwch i gael lle. Ar wahân i leoedd meithrin i blant 3 oed, mae gennych hawl i apelio os caiff eich cais ei wrthod.

Pan fydd eich plentyn yn symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, caiff eich cais am le mewn ysgol ac am gludiant am ddim i’r ysgol ei seilio ar eich cyfeiriad cartref, nid ar yr ysgol gynradd yr oedd eich plentyn yn mynd iddi.

Sut i chwilio am ddalgylch:

  1. Dewiswch y math o ddalgylch rydych chi'n chwilio amdano o'r gwymplen.
  2. Dewiswch y math o ysgol rydych yn chwilio amdanynt.
  3. Rhowch eich cod post a phwyswch enter.
  4. Bydd eich cyfeiriad yn ymddangos ar y map fel eicon tŷ, wedi'i leoli mewn dalgylch a amlinellir. Chwyddwch i mewn am gywirdeb.
  5. Bydd ysgolion yn ymddangos ar y map fel eiconau glas, cliciwch ar y eiconau glas i gael gwybodaeth am yr ysgol.