Sipsiwn a Theithwyr
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Mae Sipsiwn a Theithwyr yn grŵp gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwahanol grwpiau o Sipsiwn a Theithwyr, a gwahanol gefndiroedd hanesyddol, diwylliannau a thraddodiadau.
Mae plant o dreftadaeth Sipsiwn a Theithwyr weithiau angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol oherwydd:
- Efallai y byddant yn absennol o'r ysgol oherwydd eu bod yn teithio gyda'u teuluoedd;
- Efallai y bydd ganddynt agwedd wahanol at addysg ac ysgol, sy'n gallu arwain at ddiffyg presenoldeb a chyrhaeddiad;
- Efallai y bydd ganddynt wahanol ddyheadau ar gyfer y dyfodol i'r rhan fwyaf o'u cyd-ddisgyblion;
- Efallai y cânt eu bwlio;
- Yn draddodiadol y mae eu deilliannau addysgol yn isel, ac mae hwn yn faes y mae angen ei wella.
Sut bydd yr ysgol yn helpu?
- Dylai ysgolion fod yn gynhwysol, yn groesawgar ac yn ystyriol o blant sy'n Sipsiwn a Theithwyr, ac o'u teuluoedd.
- Os bydd plant yn absennol o'r ysgol oherwydd teithio, dylai'r ysgol gydgysylltu â'r teulu er mwyn trefnu gwaith i'r plant ei wneud tra byddant i ffwrdd.
- Dylai'r ysgol fonitro cynnydd a gallai gynnig sesiynau ychwanegol ynghylch sgiliau sylfaenol.
Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau am eu plant. Gall yr ysgol gysylltu â'n Gwasanaeth Addysg Teithwyr i gael cymorth:
- Cydgysylltydd y Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr: Caroline Hodson, E-bost: CHodson@sirgar.gov.uk
Sut rydym yn gweithio gyda theuluoedd
Mae'r Gwasanaeth yn gweithio gyda theuluoedd os yw eu plant ar gofrestr ysgol. Mae hyn yn cael ei drefnu yn ôl y galw, a rhoddir blaenoriaeth i'r plant â'r anghenion mwyaf yn gyntaf, er enghraifft disgyblion newydd i'r ardal. Gallwn gefnogi teuluoedd mewn perthynas ag addysg eu plentyn drwy:
- mynd i gyfarfodydd yn yr ysgol gyda'r rhieni,
- trafod gwybodaeth ysgrifenedig i sicrhau bod rhieni'n deall beth sy'n digwydd yn ysgol eu plentyn,
- rhoi cymorth yn ymwneud ag ysgrifennu llythyrau a chwblhau ceisiadau am le mewn ysgol,
- rhoi cymorth o ran trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Oedolion
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi
Mae ein hymddygiad yn eiffeithio ar bawb a phopeth
Herio
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion