Darpariaethau arbenigol

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynhwysiant ac i addysgu cynifer o'n plant a'n pobl ifanc â phosibl yn eu cymunedau lleol.

Er y gellir diwallu'r rhan fwyaf o anghenion ein dysgwyr yn ein hysgolion prif ffrwd, datblygwyd ysgol arbennig ac amrywiaeth o ddarpariaethau arbenigol i addysgu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn unol â'r ymrwymiad i gynhwysiant, mae'r rhan fwyaf o'r lleoliadau hyn ynghlwm wrth ysgolion prif ffrwd.

Mae pob cais am ddarpariaeth arbennig yn cael ei ystyried ar ran y Cyfarwyddwr yn y Panel Cynhwysiant bob wythnos. Mae Panel Cynhwysiant y Sir yn argymell lleoliadau yn ei ganolfannau arbenigol a dyma'r unig lwybr y gall plentyn neu berson ifanc dderbyn mynediad i ganolfan arbenigol.

Wrth wneud penderfyniad mae'r Panel Cynhwysiant yn ystyried os yw anghenion ychwanegol y plentyn neu'r person ifanc yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer mynediad i ganolfan penodol. Mae angen datganiad o ADY neu CDU i gael mynediad at bob un o ganolfannau arbenigol Sir Gaerfyrddin.

Os yw gweithiwr proffesiynol wedi awgrymu bod angen i ddysgwr fynychu lleoliad arbenigol a'ch bod am drafod hyn ymhellach, anfonwch e-bost at ALNQueries@sirgar.gov.uk

Lleoliad tymor byr yw hwn ar gyfer plant 3-7 oed (Cyfnod Sylfaen) sydd ag oedi datblygiadol cyffredinol neu benodol, sydd o dan asesiad. Bydd y plentyn wedi cael asesiad gan Seicolegydd Addysg a Phlant ac yn dilyn asesiadau sylfaen gan ystod o asiantaethau, gan gynnwys iechyd, gellir gwneud argymhelliad bod angen cyfnod o arsylwi ac asesu ar y plentyn er mwyn adnabod anghenion tymor hir.

Mae’r lleoliad hwn ar gyfer plant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu ac sydd angen canolfan arbenigol; bydd gan y plant fynediad at brofiadau a chyfleoedd yn yr ysgol prif ffrwd. Bydd cytundeb rhwng gweithwyr proffesiynol y Gwasanaeth Iaith a Lleferydd a'r Seicolegydd Addysg a Phlant bod gan y plentyn anhawster lleferydd / iaith datblygiadol h.y anhawster yn ogystal ag oedi wrth ddatblygu iaith.

Dyma leoliad ar gyfer plant neu bobl ifanc sydd â byddardod difrifol neu ddwys a/neu Anhwylder Sbectrwm Niwropathi Clywedol sy'n cael effaith ddifrifol ar swyddogaeth glywedol.

Lleoliadau ar gyfer plant ag anghenion parhaus, cymhleth, dwys a hirdymor ym maes anawsterau ymddygiadol, cymdeithasol ac emosiynol. Disgwylir y cymerwyd pob cam rhesymol i gefnogi lleoliad yn y brif ffrwd cyn cais am leoliad.

  • Canolfan Bro Tywi Y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2
  • Canolfan Addysgu a Dysgu Uwchradd Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin/Porth Tywyn) Cyfnodau Allweddol 3 a 4
  • Canolfan Addysgu a Dysgu Uwchradd Sir Gaerfyrddin Canolfan y Gors Cyfnodau Allweddol 3 a 4