Awtistiaeth
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Anhwylder datblygiadol yw awtistiaeth (neu anhwylder sbectrwm awtistig) sy'n effeithio ar y ffordd y mae rhywun yn cyfathrebu â phobl eraill ac yn ymwneud â'r byd o'u cwmpas. Effeithir ar blant mewn gwahanol ffyrdd. Gall y rhain gynnwys:
- Materion synhwyraidd - ymatebion anarferol i synau, arogleuon, cyffwrdd, blasau a mewnbwn gweledol
- Lleferydd ac Iaith – datblygiad anarferol o ran lleferydd a/neu ddiffygion o ran hynny, dehongli iaith yn llythrennol, ac anawsterau prosesu iaith
- Ymddygiad ailadroddus neu obsesiynol a diddordebau dwys
- Rhyngweithio cymdeithasol – anhawster deall perthnasoedd, ymddygiad a rheolau cymdeithasol
- Cyfathrebu cymdeithasol - cyfathrebu llafar a dilafar megis ystumiau, tôn y llais, cyfleu teimladau â'u hwyneb
- Anhyblygrwydd o ran meddwl ac anhawster o ran dychymyg cymdeithasol
Mae'r problemau hyn yn achosi anawsterau gwahanol i bob plentyn. Mae lefelau uchel o orbryder yn broblem gyffredin i blant sydd ag awtistiaeth.
Sut bydd yr ysgol yn helpu?
- Eir ati i helpu plant ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth drwy ystyried profiad y plant a gwneud rhai newidiadau syml. Dylai arferion da yr ysgol gynnwys:
- Amgylchedd cyfoethog ei iaith sy'n hybu dysgu iaith
- Iaith glir, benodol wedi'i hategu ag awgrymiadau gweledol (geiriau, symbolau a lluniau) i helpu'r dysgu
- Gwahaniaethu gwybodaeth ac esboniadau
- Modelu ac addysgu sgiliau cymdeithasol
- Profiadau dysgu amlsynhwyraidd ac ystyriaeth o wahaniaethau synhwyraidd
- Addasu amodau ac arddulliau addysgu at anghenion penodol disgyblion (e.e. uchder sŵn, agosrwydd yn yr ystafell, tasgau dan wasgfa o ran amser)
- Elklan, Talkabout neu strategaethau iaith a lleferydd eraill
- Sgrinio a monitro cynnydd
- Trafod â rhieni a gofalwyr i gael cymaint o wybodaeth â phosibl, a defnyddio'r wybodaeth hon i lywio cynllunio ac addysgu
- Ymwybyddiaeth o blant sy'n meddwl yn 'wahanol' ac ymchwilio i gyfleoedd sy'n eu galluogi i lwyddo
Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu i helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.
Athrawon Ymgynghorol: Emma Wheeler, e-bost: EWheeler@sirgar.gov.uk , Melanie Bray, e-bost: MEBray@sirgar.gov.uk or Christine Evans, e-bost: ChrAEvans@sirgar.gov.uk
Gall y canlynol fod yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth:
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Oedolion
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi
Mae ein hymddygiad yn eiffeithio ar bawb a phopeth
Herio
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion