Partneriaeth â Rhieni
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Rydym yn mabwysiadu dull partneriaeth o weithio gyda theuluoedd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gan bob Awdurdod Lleol ddyletswydd statudol i ddarparu Gwasanaethau Partneriaeth â Rhieni. Mae'n wasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn darparu cymorth a chyngor i deuluoedd y mae gan eu plant anghenion dysgu ychwanegol, drwy Swyddogion Cyswllt Teulu. Mae'r swyddogion cyswllt teulu yn darparu gwybodaeth gywir a ddiduedd am amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i rieni a gofalwyr. Nid ydynt yn 'cymryd ochrau'. Maent yn helpu teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus am addysg y dysgwr. Os yw teuluoedd eisiau cefnogwr rhieni annibynnol, bydd y gwasanaeth yn darparu un.
Gall teuluoedd gymryd rhan yn y bartneriaeth hon drwy:
- siarad â Phennaeth neu CADY eu hysgol leol a fydd yn gallu rhoi manylion cyswllt y gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol.
- cysylltu â Swyddog Cyswllt Teulu ADY ar 01267 246466 neu e-bostio ALNQueries@sirgar.gov.uk. Gallant ddarparu cyngor penodol o'r Blynyddoedd Cynnar hyd at addysg ôl-16. Maent yn gweithio'n agos gyda Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar, Swyddog Arweiniol Ôl-16, athrawon ymgynghorol eraill, a swyddogion cynhwysiant.
- cysylltu â SNAP Cymru - 01554 777566 0845 120 37 30 neu E-bost: carm@snapcymru.org neu helpline@snapcymru.org.
- Mae IPSEA yn elusen genedlaethol sy'n rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i deuluoedd sydd â phlant ag anghenion addysgol arbennig. Rhoddir yr holl gyngor gan wirfoddolwyr hyfforddedig. Mae ganddynt wefan yn ipsea.org.uk a Llinell Gyngor ar 0800 018 4016.
- Mewn rhai amgylchiadau, gallwch wneud hawliad i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC). Mae rhagor o wybodaeth a'r ffurflenni angenrheidiol ar www.tribiwnlysaddysg.llyw.cymru.
Yn y lle cyntaf, gall ein Swyddogion Cyswllt Teulu:
- gwrando a thrafod eich pryderon;
- helpu teuluoedd i ddeall eu hawliau a sut i weithio mewn partneriaeth ag eraill;
- helpu teuluoedd i gyfleu eu barn yn ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb;
- helpu plant a phobl ifanc i fynegi eu barn a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed;
- helpu teuluoedd i baratoi ar gyfer cyfarfodydd, ymweliadau ysgol a thrafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol;
- rhoi cymorth i wneud penderfyniadau gwybodus am leoliadau ysgol a lleoliadau addysgol eraill;
- cynnig cefnogaeth a chynrychiolaeth mewn cyfarfodydd;
- helpu teuluoedd i chwarae rhan weithredol a gwerthfawr yn addysg a datblygiad y plentyn/person ifanc: rhoi llais i deuluoedd.
Gallant eich helpu drwy:
- ffôn neu e-bost;
- llythyr a gwybodaeth ysgrifenedig;
- trefnu ymweliad cartref os yw'n briodol.
Mae ein gwasanaethau Cynhwysiant (Addysg) ac Anabledd (Gofal Cymdeithasol) yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwell gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda theuluoedd fel y gallwn weithio mewn partneriaeth.
Os oes gan blant a phobl ifanc anhawster dysgu sylweddol ac anghenion cymhleth, gallant hwy a'u teulu gael eu cefnogi gan weithiwr allweddol yn y Tîm Anabledd Plant. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pawb yn gwybod pa gymorth sydd ei angen, beth sy'n cael ei wneud a pha mor aml y mae angen adolygu hyn.
Mae gennym hefyd Gydlynwyr Penodedig. Mae Cydlynydd Dynodedig yn sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael y cymorth cywir. Maent yn gweithio gydag ysgolion, gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill i sicrhau bod popeth yn cael ei gydlynu i helpu'ch plentyn i lwyddo. Gall y cydlynydd hefyd helpu i oruchwylio creu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) eich plentyn. Os oes gennych gwestiynau neu bryderon, maent yma i'ch tywys ochr yn ochr â'r Swyddogion Cyswllt Teulu.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Oedolion
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi
Mae ein hymddygiad yn eiffeithio ar bawb a phopeth
Herio
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion