Buddsoddiad Ysgolion Cynradd
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Ers cychwyn y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn 2001/2002 hyd yma, buddsoddwyd cyfanswm o £333 miliwn yn ysgolion Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys cwblhau'r prosiectau Ysgolion Cynradd canlynol:
- 15 adeilad Ysgol Gynradd newydd: Ysgol Gymunedol Peniel, Ysgol Bro Brynach, Ysgol Y Bedol, Ysgol Gynradd Cymunedol Bryn, Ysgol Bryn Teg, Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Ysgol Gymunedol Ffwrnes, Ysgol Carreg Hirfaen, Ysgol Gymunedol Trimsaran, Ysgol Pen Rhos, Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn, Ysgol Pum Heol, Ysgol Gorslas, Ysgol Y Castell ac Ysgol Pen-bre.
- Prosiectau ailfodelu ac adnewyddu yn cynnwys estyniadau.
- Mân fuddsoddiad arall yn cynnwys gwaith interim.