Ysgol Gymunedol Trimsaran
Heol Waynyclyn, Trimsaran, Cydweli, SA17 4BE

Golwg ar y Prosiect

Roedd y datblygiad yn Nhrimsaran yn gyfystyr â gwneud gwaith adfywio ffisegol ar gampws presennol yr ysgol gynradd. Aethpwyd ati i ddarparu Ysgol Gynradd gymunedol ar gyfer yr ystod oedran 3-11 ar safle'r ysgol bresennol gyda 210 o leoedd i ddisgyblion cynradd a 30 o leoedd meithrin.  Roedd cyfleuster Dechrau'n Deg newydd hefyd yn rhan o adeilad newydd yr ysgol. Cafodd y prosiect ei gyflwyno'n raddol fel bod yr ysgol yn aros yn weithredol wrth i'r ysgol newydd gael ei hadeiladu, gan sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr yr ysgol ar y safle trwy gydol y cyfnod adeiladu. 

Contractiwr

Dawnus Construction Ltd

Dyddiad Symud

7 Medi 2017