Gwobr Dug Caeredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024

Mae Gwobr Dug Caeredin yn rhaglen heriol o weithgareddau sy’n eich helpu i ddysgu sgiliau newydd, helpu pobl eraill, mynd ar antur a byddwch yn cael teimlad anhygoel eich bod wedi cyflawni rhywbeth gwych. Yn ogystal, mae llawer o sefydliadau fel cyflogwyr a phrifysgolion yn ei hoffi’n fawr iawn a beth mae’n ei ddweud amdanoch chi fel rhywun sy’n cymryd rhan ynddo.

Mae DofE yn rhaglen sydd â phedair adran ac mae’r rhain ar dair lefel:

  • Efydd (14 oed a hŷn)
  • Arian (15 oed a hŷn) ac
  • Aur (16 oed a hŷn).

Ar gyfer pob lefel mae angen cwblhau 4 adran:

  • Gwirfoddoli
  • Sgiliau
  • Corfforol
  • Alltaith
  • Preswyl (Gwobr Aur yn unig)

Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 6-12 mis i gwblhau’r Wobr Efydd; 12-18 mis i gwblhau’r Wobr Arian a 18-24 mis i gwblhau’r Wobr Aur. Efallai bydd yn cymryd llai o amser i gwblhau’r Wobr Arian neu’r Wobr Aur os ydych wedi cwblhau’r Wobr flaenorol. Rhaid cwblhau pa bynnag Wobr erbyn eich pen-blwydd yn 25 oed.

Mae 2 grŵp Gwobr Agored sydd ar gyfer pobl nad ydynt yn dymuno gwneud y Wobr DofE drwy ysgol/coleg neu sydd mewn gwaith neu’n ddi-waith.

Ble Lleoliad / Enw'r grŵp Manylion cyswllt
Ysgolion uwchradd Mae’r holl ysgolion uwchradd yn cynnal y Wobr DofE (heblaw am Glan y Môr, ond mae cynlluniau ar y gweill yno ar hyn o bryd) Alison Owen-Yeates
Coleg Sir Gâr Campws y Graig Tanya Knight
Coleg Sir Gâr Campws Rhydaman Matthew Jones
Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) Rhydaman: Twrch Trwyth Alison Owen-Yeates
Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) Caerfyrddin: Merlin’s Alison Owen-Yeates
Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) Llanelli: Scarlet Dragons Alison Owen-Yeates
Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) Porth Tywyn: Kymer Kites Alison Owen-Yeates
Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) Llanymddyfri: Black Ox Alison Owen-Yeates
Grŵp Gwobr Agored Caerfyrddin David Drinkall
Lyn Lewis
Grŵp Gwobr Agored Llanelli Alison Owen-Yeates