Prydau ysgol gynradd

Diweddarwyd y dudalen ar: 25/11/2024

Bydd eich plentyn yn cael prif bryd dau gwrs sy'n cynnwys dewis llysieuol a phwdin. Hefyd mae ffrwythau ffres a dŵr yfed ar gael ym mhob ysgol. Mae ein bwydlenni yn dilyn trefn rota 3 wythnos, sy'n cael ei newid ddwywaith y flwyddyn, sef ym mis Mai a mis Hydref, er mwyn caniatáu ar gyfer amrywiant tymhorol.

Mae ein holl fwydlenni'n cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, a ddaeth yn ddeddfwriaeth ym mis Medi 2013. Diben y rheoliadau bwyd hyn yw lleihau'r braster, y siwgr, a'r halen sydd mewn prydau ysgol. Drwy fod yn ofalus a defnyddio cynhwysion sydd â llai o fraster a/neu halen ynddynt a mabwysiadu arferion da megis pobi yn y ffwrn a stemio, gallwn barhau i ddarparu prydau sy'n ffefrynnau traddodiadol megis cinio rhost traddodiadol, cyrri a reis cartref ac amrywiaeth o brydau pasta a phwdinau sy'n cynnwys sbwng a chwstard cartref a phwdin reis.