Canolbwyntio

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024

Mae gallu plant/pobl ifanc i ganolbwyntio a ffocysu’n datblygu wrth iddynt dyfu'n hŷn. Mae'n wahanol i bob plentyn/person ifanc. Bydd rhai plant/pobl ifanc yn cael anhawster arbennig i dalu sylw, gyda diffyg amynedd a/neu gyda gorfywiogrwydd, yn fwy felly na'u ffrindiau. Weithiau gelwir hyn yn Anhwylder Diffyg Canolbwyntio Gorfywiogrwydd neu ADHD.

Gall plant/pobl ifanc ag anawsterau ADHD:

  • ymddangos fel pe na baent yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud;
  • cael trafferth trefnu eu hunain;
  • golli sylw'n hawdd;
  • fod yn aflonydd;
  • mynd allan o'u sedd a/neu redeg o gwmpas;
  • cael trafferth aros a chymryd eu tro.

Gellir cysylltu'r problemau hyn ag anawsterau ymddygiadol a chymdeithasol.

Sut bydd yr ysgol yn helpu?

Gall ysgolion helpu drwy:

  • atgyfnerthu ymddygiad da yn gadarnhaol;
  • cynnal awyrgylch tawel;
  • sicrhau bod ceryddu ac ailgyfeirio yn ymwneud â'r dasg;
  • parchu hunan-barch plentyn;
  • rhannu tasgau a chyfarwyddiadau yn gamau bach;
  • addysgu a chefnogi sgiliau trefnu;
  • cynnig dewis o wobrau.

Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am allu'r dysgwr i ganolbwyntio neu ffocysu.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.

Dolenni cyswllt: