Hebryngwyr Ysgol

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024

Mae hebryngwyr croesfannau ysgol yn helpu plant a cherddwyr eraill i groesi'r ffordd yn ddiogel wrth gerdded i'r ysgol ac yn ôl adref mewn man penodedig rhwng amserau penodol.

Nid yw darparu hebryngydd yn ofyniad statudol a hyd yn oed pan ddarperir hebryngydd, mae rhieni'n parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch eu plant, yn union fel y maen nhw ei wneud pan fydd croesfan sebra neu groesfan â goleuadau.

Os ydych chi'n credu bod lleoliad penodol ger yr ysgol, lle mae'r rhan fwyaf o blant yn croesi, a fyddai'n elwa o hebryngydd, anfonwch e-bost i:  hebryngyddysgol@sirgar.gov.uk gan nodi'r union leoliad.

Rydym yn defnyddio'r meini prawf y cytunwyd arnynt yn genedlaethol gan Ganllawiau Hebryngydd Croesfannau Ysgol Road Safety Great Britain wrth asesu'r potensial ar gyfer man newydd i'r hebryngydd croesfannau ysgol sefyll. Mae hyn yn cynnwys cyfrif nifer y cerddwyr a cherbydau amser teithio i'r ysgol ac mae'n cynnwys adolygiad o ddata am wrthdrawiadau, cyflymder y traffig, seilwaith, arwyddion ac ymgysylltu â'r ysgol.

Os caiff y man ei gymeradwyo, dim ond ar ôl i berson addas gael ei recriwtio a'i hyfforddi i lenwi'r swydd y gallwn ddarparu hebryngydd.

Os nad yw'r man yn bodloni'r meini prawf ar gyfer hebryngydd a ariennir gan y Cyngor, gall fod opsiwn i'r ysgol neu gymuned ehangach yr ysgol ariannu'r hebryngydd eu hunain, fodd bynnag, dylai'r gwasanaeth barhau i gael ei reoli gennym ni.

Pan fydd y man lle mae'r hebryngydd croesfannau ysgol yn sefyll yn dod yn wag, e.e. hebryngydd yn ymddiswyddo, mae adolygiad safle yn cael ei gynnal gan ddefnyddio'r un asesiad ar gyfer man newydd posibl.